Allan o’r Cysgodion: Cynhadledd i ddisgyblion De Cymru am weithredu cudd ym myd cudd-wybodaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Beth mae'n ei feddwl i Arlywyddiaeth fod yn 'Imperialaidd'? Pwy oedd yr arlywyddion 'Imperialaidd'? Sut y mae arlywyddion yn gwneud penderfyniadau ym maes polisi tramor? A beth sy'n digwydd pan fydd y penderfyniadau hynny'n methu, megis ymosodiad Bae'r Moch?

Pa mor ddylanwadol fu'r CIA a damcaniaethau cynllwyn ynghylch yr asiantaeth yn hanes America? Beth oedd ei rôl wrth ethol Donald Trump? Beth sy'n gyrru polisi tramor Rwsia? Pam a sut y mae Gwasanaethau Cudd Prydain wedi ymwneud â gweithredu cudd?  Sut y gallwn ddeall ymyrraeth etholiadol?

Yn gynharach y mis hwn (ddydd Gwener Medi 15) yn rhan o'i brosiect ‘Allan o'r Cysgodion’, wedi'i ariannu gan yr Academi Brydeinig, cynhaliodd Dr Luca Trenta o Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol Prifysgol Abertawe gynhadledd i ysgolion i geisio canfod yr atebion i'r cwestiynau hyn.

Dr Luca Trenta Out of the Shadows

Nod y gynhadledd oedd pontio'r 'bwlch mewn cudd-wybodaeth' mewn cwricwla ysgolion ynghylch dealltwriaeth o waith cymhleth yr asiantaethau cudd-wybodaeth cenedlaethol a gweithredu cudd seneddol. 

Daeth bron 100 o academyddion, athrawon a disgyblion rhwng 14-18 oed o Ysgol Gatholig yr  Esgob Vaughan, Abertawe; Ysgol y Gadeirlan, Llandaf; Ysgol Cefn Saeson, Castell-nedd; Ysgol y Crypt, Caerloyw; Ysgol Tŷ Ffynone, Abertawe; ac Ysgol Westbourne, Penarth, ynghyd ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe i glywed arbenigwyr blaenllaw ym meysydd cudd-wybodaeth y DU ac UDA yn trafod ystod eang o bynciau sy'n procio'r meddwl.  

Roedd y dydd yn cynnwys sgyrsiau, dadleuon, chwarae rôl a ffug ymgyrchoedd, lle gofynnwyd i ddisgyblion 'chwarae' rolau allweddol yn etholiadau 1948 yr Eidal  - mewn rhai grwpiau, roedd y cystadlu'n fonheddig, mewn eraill cafodd  llwgrwobrwyo, llygredd, ymosodiadau ar fywyd a chastiau cas oll eu hystyried! 

Dr Luca Trenta Out of the Shadows logo

Mwynhaodd y disgyblion y darlithoedd cyweirnod gan Dr Clodagh Harrington o Brifysgol DeMontfort a Dr Rory Cormac o Brifysgol Nottingham, yn ogystal â thrafodaethau panel gan Allyson Edwards, ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe, Francesca Akhtar, ymgeisydd PhD yng Ngholeg Prifysgol Llundain, Dr Simon Willmetts o Brifysgol Hull a Dr Luca Trenta.

Meddai Dr Trenta: "Yn rhan o'u hastudiaethau mae angen i ddisgyblion ddysgu am faterion ynghylch esblygiad rhyfela, pwerau Arlywyddion a Phrif Weinidogion, y Rhyfel Oer a dadwladychu, gwleidyddiaeth fyd-eang; ond ni thraddodir cudd-wybodaeth, ysbïwriaeth a gweithredu cudd.

"Cynigiodd y gynhadledd hon y cyfle perffaith i gyfoethogi cwricwla ysgolion a'r modd yr ymdrinnir â’r pynciau uchod.

"Gwnaeth natur gyffrous, ac yn aml, natur ddadleuol y pynciau a drafodwyd ddal diddordeb y disgyblion trwy gydol y dydd ac roedd y sesiynau chwarae rôl yn llwyddiant ysgubol. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu cyfraniad i ddiwrnod cynhyrchiol iawn."

Trefnwyd cynhadledd 'Allan o’r Cysgodion' gyda chymorth yr Academi Brydeinig a Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.