Adroddiad newydd gan Ymddiriedolaeth Forces in Mind: gallai cyn-filwyr Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig fod mewn perygl uwch o ddatblygu problemau gamblo

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mewn adroddiad newydd a ryddhawyd heddiw (21 Mehefin) gan Brifysgol Abertawe a'i ariannu gan Ymddiriedolaeth Forces in Mind (FiMT), awgryma canfyddiadau cychwynnol y gallai cyn-filwyr y Deyrnas Unedig fod mewn perygl uwch o ddatblygu problemau gamblo na'r rhai nad ydynt wedi bod yn filwyr. Nodir hefyd y gallai'r perygl hwn fod yn gysylltiedig â phrofi digwyddiadau trawmatig yn y gorffennol.

Lluniwyd yr adroddiad o'r teitl, ‘Gambling in Armed Forces Veterans: Results from the 2007 Adult Psychiatric Morbidity Survey of England’, gan yr Athro Simon Dymond ac Elystan Roberts o'r Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe gyda chydweithwyr o Brifysgol Bangor, Prifysgol Anglia Ruskin a GIG Cymru i Gyn-filwyr. Mae'r adroddiad, a lansiwyd yn ystod cynhadledd Excessive Gambling Wales 2017 yng Nghaerdydd heddiw, yn cynrychioli'r archwiliad cyntaf erioed o natur y broblem gamblo a faint o broblem ydyw ymhlith cyn-filwyr yn y Deyrnas Unedig.

Ymhlith y canfyddiadau sy'n gyson â thystiolaeth ryngwladol mae'r rheiny sy'n dangos graddau uwch o broblemau gamblo ymysg cyn-filwyr y lluoedd arfog o gymharu â phoblogaethau dinasyddion. Mae'r canfyddiadau allweddol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Mae cyn-filwyr Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig dros wyth gwaith yn fwy tebygol o ddangos problemau gamblo (1.41%) na'r rhai nad ydynt yn gyn-filwyr (0.17%)
  • Mae'n fwy tebygol bod cyn-filwyr gwrywaidd wedi profi digwyddiad trawmatig na dynion nad ydynt yn gyn-filwyr (sef cyfrannwr posib i broblemau gamblo'n fod yn fwy amlwg ymhlith cyn-bersonel y Lluoedd Arfog); ac
  • Mae cyn-filwyr y Deyrnas Unedig yn tueddu cymryd risgiau a allai esbonio tueddiad uwch i ddatblygu problemau gamblo.

Gambling research Daeth rhai o'r canfyddiadau, fodd bynnag, o ymchwil ehangach; er enghraifft, nid oedd canlyniadau'r astudiaeth hon yn dangos y gallai statws cyn-filwyr a phroblemau gamblo gael eu hesbonio gan wahaniaethau mewn cyflyrau iechyd meddwl, cam-drin sylweddau na chan gamreoli ariannol.

Seiliwyd yr adroddiad ar ddadansoddi data o Arolwg Morbidrwydd Seiciatrig Oedolion 2017; sef cyfres o arolygon a ddefnyddir i ddarparu data am anhwylderau seiciatrig ymhlith y boblogaeth oedolion sy'n byw yn y gymuned yn Lloegr (h.y. nid yw'r arolwg yn cynnwys pobl ddigartref adeg yr arolwg, y rhai mewn cartrefi preswyl na'r rhai mewn sefydliadau seiciatrig). O ddata arolwg y 5,358 o gyfranogwyr a aseswyd roedd 257 yn gyn-filwyr. Mae'r ymchwil sy'n cael ei hadolygu gan gymheiriaid ar hyn o bryd yn cydnabod bod angen ymchwil bellach gan ddefnyddio sampl mwy o gyn-filwyr gan ofyn cwestiynau penodol ynghylch iechyd meddwl cyn gwasanaeth, manylion am yrfaoedd y cyfranogwyr yn y lluoedd arfog a ffocws ar broblemau gamblo.

Meddai Ray Lock CBE, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Forces in Mind: "Mae canfyddiadau'r adroddiad hwn yn  nodi, o leiaf yng nghyfyngiadau'r set data hwn, bod gwahaniaeth sylweddol wedi'i ganfod rhwng lefel problemau gamblo ymhlith cyn-filwyr Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol. Mae canfyddiadau ar argymhellion yr adroddiad hwn yn cyfrannu at hysbysu'r angen am ymchwil i'r mater pwysig hwn yn y dyfodol. Mae’n hollol glir bod angen tystiolaeth ehangach i alluogi gwneuthurwyr polisi a darparwyr gwasanaethau i adnabod ymyriadau triniaeth addas ac amserol yn well a fydd yn bennaf yn cynorthwyo unrhyw gyn-bersonel o'r gwasanaethau sy'n dioddef o broblemau'n gysylltiedig â gamblo wrth iddynt drosglwyddo i fywyd allan o’r lluoedd arfog.   

Meddai'r Athro Simon Dymond: "Mae'r adroddiad hwn yn gam cyntaf pwysig i gynnal ymchwil ar broblemau sy'n gysylltiedig â gamblo yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig. Dengys ymchwil ryngwladol flaenorol o Unol Daleithiau America ac Awstralia fod cyfraddau uwch o broblemau gamblo ymhlith poblogaethau'r Lluoedd Arfog ond dyma'r tro cyntaf i'r ffenomenon hwn gael ei adnabod mewn sampl o'r Deyrnas Unedig. Gan ystyried yr heriau iechyd cyhoeddus cynyddol a gyflwynir gan broblemau gamblo mae hon yn ganfyddiad hanfodol. Gobeithiwn y bydd ymchwil y dyfodol yn defnyddio'r adroddiad hwn i ddechrau sgwrs ynglŷn â'r angen am asesu a deall problemau gamblo yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yn fanylach.