Academi Hywel Teifi yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau yng Ngŵyl Tafwyl

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Eleni, mi fydd Academi Hywel Teifi yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau llenyddol ym Mhabell Lenyddiaeth Tafwyl ar 1 a 2 Gorffennaf 2017 yng Nghaeau Llandaf.

Tafwyl - 2017Mae Tafwyl yn ddigwyddiad naw diwrnod i gyd, gyda digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal o amgylch y brifddinas mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd, caffis, bariau a chanolfannau celf am saith diwrnod fel rhan o Wythnos Tafwyl, gan orffen gyda’r prif ddigwyddiad, Ffair Tafwyl, dros y penwythnos olaf. Mae’r Ffair yn gymysgedd fywiog o gerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, drama, comedi, celf, chwaraeon, bwyd a diod, a llawer mwy.

Dros y penwythnos mi fydd Academi Hywel Teifi yn cyflwyno: 

 

Dydd Sadwrn 1 Gorffennaf

Awen Abertawe - 12pm

  • Cyfle i glywed y Prifardd Tudur Hallam, y Prifardd Aneirin Karadog a beirdd ifanc Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe yn cyflwyno eu cerddi ac yn trafod sut mae dysgu’r grefft. 

Dychmygu’r Wladfa - 3pm

  •  Dr Geraldine Lublin o Adran Ieithoedd a Chyfieithu Prifysgol Abertawe yn trafod ei chyfrol newydd am hunangofiannau a hunaniaeth Patagonia gyda Dr Hannah Sams o Adran y Gymraeg.

Dydd Sul 2 Gorffennaf

Ar Ddisberod - 12pm

  •  Grug Muse, myfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe,yn trafod ei chyfrol newydd o gerddi, Ar Ddisberod,  gyda’r Athro Brifardd Christine James. 

Cyfan-dir Cymru - 3pm

  • Yr Athro M.Wynn Thomas o Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru Prifysgol Abertawe yn trafod ei gyfrol newydd o ysgrifau ar ddiwylliant a llenyddiaeth Saesneg Cymru gyda’r Athro Daniel Williams.

Mae Tafwyl yn dangos ein diwylliant ar ei orau, felly peidiwch â cholli allan - dewch i fwynhau gŵyl unigryw Tafwyl!