Yr Athro Siwan Davies yn derbyn Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ddiweddar, derbyniodd yr Athro Siwan Davies o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe Wobr Goffa Eilir Hedd Morgan yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cyflwynir y Wobr Goffa i ysgolhaig o 40 mlwydd oed neu iau i gydnabod, nid yn unig blaengarwch ymchwil ymysg y gwyddorau, ond cyfraniad i addysgu’r gwyddorau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn sefydliad addysg uwch.

Ond yn naw ar hugain mlwydd oed pan fu farw, roedd Dr Eilir Hedd Morgan yn wyddonydd  ifanc, disglair a galluog, a hefyd yn addysgwr greddfol oedd yn hynod boblogaidd. Sefydlwyd y Wobr gan ei rieni Iwan ac Alwena er cof amdano.

Yr Athro Siwan Davies Y mae’r Athro Siwan Davies yn ysgolhaig o’r radd flaenaf, ac yn un sy’n meddu ar enw da rhyngwladol am safon ei hymchwil a’i chyfraniad i ysgolheictod. Y mae’n un o sêr ymchwil mwyaf blaenllaw Prifysgol Abertawe, ac yn un sydd wedi cyfrannu’n ddiflino i ddatblygu maes Daearyddiaeth Ffisegol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn hyn mae’n Brif Archwilydd Prosiect TRACE (Tephra Constraints on Rapid Climatic Events) sydd wedi ei gyllido gan Gyngor Ymchwil Ewrop. Ar hyn o bryd, mae’r Athro Davies yn ffilmio cyfres o raglenni ar newid hinsawdd gyda chwmni Telesgop. Mae’r gyfres yn dilyn taith i weld effeithiau newid hinsawdd ar gymunedau yn yr Ynys Las a’r Maldives. Bydd y gyfres yn cael ei ddarlledu ar S4C yn ystod y Gwanwyn.

Wrth gyflwyno’r Wobr, meddai Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Yn flaengar mewn ymchwil, trwy ei gwaith fel arweinydd, addysgwraig a goruchwylydd ymchwil penigamp, gan gynnwys goruchwylio rhai o fyfyrwyr ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae Siwan wedi sicrhau datblygiad aruthrol yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn ei phwnc yn Abertawe.

“Rydym ninnau yn y Coleg wedi bod ar ein hennill yn fawr; mae’n aelod gweithgar a ffyddlon o’n Bwrdd Academaidd, wedi eistedd ar rai o Baneli Dyfarnu a Gwerthuso’r Coleg, ac mae’n llwyr gefnogol i’r nod o ddarparu cyfleoedd addysg ac ymchwil i siaradwyr Cymraeg.

“Braint i mi, ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac er cof am gyd-wyddonydd a wnaeth cymaint, mewn ychydig, dros addysgu’r gwyddorau yn y Gymraeg, yw cyflwyno Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan, 2016 i’r Athro Siwan Davies.”

Fideo: dysgwch fwy am waith ymchwill yr Athro Siwan Davies ar newid hinsawdd