With Music in Mind: Grŵp canu a rhwydweithio cymdeithasol i bobl hŷn yn ehangu

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae grŵp canu a rhwydweithio cymdeithasol i bobl hŷn yn y Bont-faen, Bro Morgannwg, wedi ehangu’n ddiweddar i ardaloedd eraill yn Ne Cymru, ar ôl dathlu llwyddiant a’i ben-blwydd cyntaf.

Cafodd Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) With Music in Mind ei sefydlu ar y cyd ym mis Mai 2015 gan gynorthwyydd ymchwil Dr Sarah Miles, o Ganolfan Heneiddio Arloesol  Prifysgol Abertawe a ddechreuodd y grŵp ar sail wirfoddol gyda’i ffrind a’r cyd-sylfaenydd, Kate Whitestone, ffisiotherapydd cymwysedig.

With Music in MindDechreuodd Dr Miles, o Barc y Felin yn y Bont-faen, ei  rôl fel ymchwilydd ar yr Astudiaeth Swyddogaeth Wybyddol a Heneiddio (CFAS) yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd  y Brifysgol ym mis Tachwedd 2012.  Ar ôl hyfforddi, dechreuodd gyfweld â phobl hŷn yn y gymuned yn rhan o’i gwaith.

Yn ystod y cyfnod hwn, siaradodd Dr Miles â llawer o bobl hŷn am yr hyn yr oeddent yn mwynhau ei wneud ac roedd sawl thema gyson,  gan gynnwys cariad at gerddoriaeth, mwynhau cymdeithasu, ac yn aml nodwyd bod diffyg gwasanaethau priodol i ddiwallu eu hanghenion.

Ar ôl mynychu cynhadledd Cymdeithas Gerontoleg Prydain yn Southampton, lle datblygodd ei gwybodaeth a’i phrofiad rhwydweithio o feysydd y tu allan i’w maes pwnc arferol, gwrandawodd Dr Miles ar gerontolegwyr yn trafod grwpiau canu i bobl a chanddynt ddementia a sbardunodd hyn syniad, ar y cyd â’r hyn yr oedd eisoes wedi’i glywed gan gyfranogwyr ymchwil yn yr astudiaeth  CFAS.

With Music in Mind - Dr Sarah Miles“Dangosodd ymchwil gefndirol dystiolaeth o nifer enfawr o fuddion a oedd yn gysylltiedig â chanu mewn grwpiau, a cheir rhai o’r buddion hyn mewn rhwydweithio cymdeithasol hefyd”, meddai Dr Miles.

“Mae’r rhain yn cynnwys lles gwell, disgwyliad oes hwy, rhagor o hyder, llai o straen, ac roedd llawer eraill ar gyfer pobl a chanddynt glefydau penodol megis MS, clefyd Parkinson, neu’r rhai sydd wedi cael strôc.

“Bues i’n siarad yn aml â’m ffrind Kate am y ffaith ein bod am wneud mwy gyda’n gyrfaoedd, a hefyd i wneud rhywbeth yn y gymuned.  Pan es i ati gyda’r syniad o ddechrau grŵp cymunedol canu a rhwydweithio cymdeithasol, neidiodd ar y cyfle.”

Ar ôl ymchwilio i’r ffordd orau o gyflawni eu nod, penderfynodd y tîm ffurfio CIC ac ar y 9fed o Fawrth, 2015, lansiwyd With Music in Mind

“Gwnaethom hysbysebu’n lleol a dechreuon ni gynnig y grwpiau i’r rhai dros 60 mlwydd oed a chynhaliwyd ein grŵp canu a rhwydweithio cymdeithasol cyntaf ar Fedi 4, 2015 yn y Bont-faen - ychydig dros flwyddyn yn ôl,” meddai Dr Miles.

“Roedd yn llwyddiant ysgubol a bu’r grŵp yn rhedeg bob dydd Gwener ers hynny. Ar ddydd Sadwrn, Medi 17, 2016, cynhaliodd grŵp y Bont-faen gyngerdd i’r gymuned. Roedd hyn yn llwyddiant ysgubol, roedd y canu’n wych a chododd y digwyddiad arian ac ymwybyddiaeth o’n hachos.”

With Music in Mind 3Mae’r sesiynau grŵp yn cynnwys awr o ganu mewn grŵp, dan arweiniad cyfarwyddwr cerddorol clasurol, wedi’i dilyn gan awr o rwydweithio cymdeithasol pan gaiff y grŵp luniaeth. Mae’r ail hanner yn cynnig perfformiadau bychain gan gantorion, feiolinydd a ffliwtwyr, yn ogystal â dawnsio, tylino dwylo, a sgyrsiau gan siaradwyr allanol. 

Mae aelodau’r grŵp yn cyflwyno ceisiadau am yr hyn yr hoffent ei wneud yn yr ail hanner, a hefyd yr hyn yr hoffent ei ganu yn y rhan gyntaf ac mae tîm With Music in Mind yn ceisio trefnu cymaint o’u ceisiadau â phosib.

Mae With Music in Mind wedi ehangu i gynnig ei grwpiau i’r rhai dros 50 mlwydd oed, gyda grŵp newydd yn y Barri, Bro Morgannwg, a bu’n llwyddiannus yn ei gais am ariannu gan yr Ymddiriedolaeth Cod Post Gymunedol i gychwyn grŵp peilot yng Nghastell-nedd, y mae’r tîm yn gobeithio ei lansio yn yr Hydref eleni. 

“Bydd o fudd gwerthuso’r gwasanaeth cyfan o adeg sefydlu’r grwpiau i’w rhedeg, ac i ddysgu am y buddion gan ddefnyddwyr y gwasanaeth,” meddai Dr Miles.

“Bydd arian i gynnal gwerthusiad yn caniatáu i ni ddarparu tystiolaeth bod yr hyn yr ydym yn ei wneud wir yn gwneud gwahaniaeth, felly rydym yn cyflwyno ceisiadau i noddwyr er mwyn gwneud hyn yn realiti.

“Bu blwyddyn gyntaf ein menter With Music in Mind yn llawer mwy llwyddiannus nag y gallem fod wedi gobeithio ac rydym oll wedi ennill boddhad ac ysbrydoliaeth helaeth o’r sesiynau hyn - Kate a minnau, a’r rhai sy’n mynychu’r grŵp, sy’n frwdfrydig dros ben amdano. Rydym yn gobeithio ehangu’n grwpiau canu a rhwydweithio cymdeithasol i gefnogi hyd yn oed fwy o bobl hŷn yn y flwyddyn sydd i ddod.”

Meddai Dr Paul Nash, o’r Ganolfan Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae brwdfrydedd Dr Miles yn heintus, rhinwedd sydd yn amlwg yn ysbrydoli’r rhai sy’n ymwneud â’r côr.

“Mae’r ymagwedd arloesol hon yn pontio’r bylchau rhwng ymchwil academaidd a’r byd go iawn, gan ddangos sut y gall ymchwil ysbrydoledig ddod yn ymarfer ysbrydoledig i wneud gwahaniaeth go iawn.

“Ethos y Ganolfan yw gwella bywydau oedolion hŷn; mae Dr Miles wedi dangos pa mor effeithiol y gellir gwneud hyn gydag ychydig o benderfyniad a brwdfrydedd.

“Mae cerddoriaeth yn rhan allweddol o ddiwylliant Cymreig ac mae Dr Miles wedi dangos sut y gall cofleidio diwylliant a hanesion ar y cyd gyfoethogi bywydau oedolion hŷn o fewn eu cymunedau eu hunain.”

Cynhelir Dawns With Music in Mind ddydd Gwener, Mawrth 24, 2017 yng Ngwesty’r Arth, y Bont-faen, a hon fydd prif ddigwyddiad codi arian ac ymwybyddiaeth y fenter. Mae’r grŵp hefyd yn cynnal nosweithiau canu yn neuadd y dref y Bont-faen.

Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.withmusicinmind.co.uk/.