“What children say: Hearing the voices of children about their rights and needs”

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Estynnir gwahoddiad i chi i symposiwm deuddydd am ddim a gynhelir gan Goleg y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe ynghylch hawliau plant a chyfiawnder ieuenctid.


Teitl: “What children say: Hearing the voices of children about their rights and needs”

Dyddiad: 12-13 Mai 2016

Amser: 10am tan 4pm bob dydd

Lleoliad: Adeilad Richard Price, Campws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe


Bydd y symposiwm, gan dynnu ar ymchwil a gyflawnwyd yn y Coleg, yn canolbwyntio ar glywed lleisiau plant am eu hawliau a'u hanghenion mewn perthynas â'r hawliau hynny. Yn benodol, bydd y symposiwm yn ystyried:

  • Beth mae plant ar draws Abertawe yn ei ddweud am ystyr eu 'hawliau' iddyn nhw
  • Sut mae oedolion yn deall ac yn defnyddio hawliau plant i gefnogi a galluogi datblygiad a thwf plant
  • Y ffyrdd y mae ymagweddau ar sail hawliau yn dylanwadu ar ddulliau sy'n ymwneud â chyfiawnder ieuenctid i gyflawni ymyriadau ac atal cynnar o ran plant sydd naill ai yn y system cyfiawnder troseddol neu ar drothwy'r system
  • Natur y bylchau mewn ymchwil, polisïau ac arferion hawliau plant a chyfiawnder ieuenctid a sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain drwy weithgarwch ymchwil, cydweithio a chyfnewid gwybodaeth

Bydd diwrnod cyntaf y symposiwm yn canolbwyntio ar gyflwyno canfyddiadau ymchwil a gyflawnwyd yn Abertawe drwy'r rhaglen Interniaeth Ymchwil Troseddeg Amlasiantaethol. Yn ogystal, bydd Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc yn cyflwyno gwaith cyfredol gyda phlant a phobl ifanc ar draws Cymru.

Yn ystod ail ddiwrnod y symposiwm cyflawnir ymagwedd bragmatig at ddeall goblygiadau'r hyn y mae plant yn ei ddweud. Bydd yr ail ddiwrnod yn 'ymarferol' ac yn cynnwys trafodaethau llawn â ffocws; gwaith grŵp thematig; ac adnabod ymchwil y dyfodol a mathau eraill o gydweithio rhwng y Brifysgol, y plant eu hunain ac asiantaethau partner.

Bydd yr Athro Elwen Evans QC, Pennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe, yn agor y symposiwm, gydag ystod o unigolion yn annerch, gan gynnwys yr Athro Tracey Sagar, Pennaeth yr Adran Droseddeg, swyddogion allweddol asiantaethau partner, a'r plant maent yn gweithio gyda hwy. Bydd amserlen lawn ar gyfer y digwyddiad ar gael maes o law.

Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ar gyfer y digwyddiad, felly os hoffech ddod, e-bostiwch gadeirydd y symposiwm, Dr Anthony Charles, uncrc@abertawe.ac.uk, gan nodi'ch enw, eich swydd, eich asiantaeth/maes gwaith ac unrhyw anghenion dietegol (darperir lluniaeth a chinio) neu fynediad.


Mae'r digwyddiad hwn yn ddiweddglo gweithgarwch mewn partneriaeth, a hoffai Coleg y Gyfraith a Throseddeg ddiolch i Ysgol Gynradd Blaenymaes, Ysgol Gynradd Hafod, Ysgol Pentrehafod a Dinas a Sir Abertawe am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad i alluogi'r ymchwil a gyflwynir.