Technoteach: Athrawon Cyfrifiadureg yn cael eu gwobrwyo am eu llwyddiant

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Daeth 13 o athrawon o ledled De Cymru yn rhan o’r cohort cyntaf o ddysgwyr i lwyddo i ennill y cymhwyster Tystysgrif Cyfrifiadura ar gyfer Athrawon Lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau fel rhan o raglen flwyddyn Datblygiad Proffesiynol Parhaus Technoteach ym Mhrifysgol Abertawe.

Technoteach July 2016 cohort

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r hyfforddiant yn rhan o raglen lwyddiannus Technocamps y Brifysgol a ariennir gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol trwy Lywodraeth Cymru i uwchsgilio athrawon er mwyn magu eu hyder a’u cymhwyso i gyflwyno’r cwricwlwm cyfrifiadureg, yn ogystal â rhoi cefnogaeth i gyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Caiff y cwrs, sydd hefyd wedi derbyn achrediad gan ‘Sgiliau Achrededig ar gyfer Diwydiant’, ei addysgu dros gyfnod o 18 o ddiwrnodau drwy gydol y flwyddyn academaidd a daw athrawon ynghyd unwaith bob pythefnos i ddatblygu eu dealltwriaeth am yr ystod o bynciau sy’n ymwneud â chyfrifiadureg, o roboteg i raglennu Python.

Daeth yr athrawon sy’n dathlu llwyddiant yr wythnos hon o Ysgol Gyfun Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr; Ysgol Gyfun Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr; Ysgol Gyfun Coed Duon, Caerffili; Ysgol Kings Monkton, Caerdydd; Ysgol Gyfun Emlyn, Sir Gaerfyrddin; Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin; Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Sir Gaerfyrddin; Ysgol Uwchradd Aberteifi, Ceredigion; Ysgol Dyffryn, Castell-nedd Port Talbot; Ysgol Tasker Milward, Sir Benfro; ac Ysgol Maesydderwen, Powys.

Meddai’r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps: “Mae’n beth gwych i weld y 13 o athrawon a gychwynnodd ar y llwybr i ennill y cymhwyster ym mis Medi 2015 oll yn derbyn y tystysgrifau sydd yn wirioneddol haeddiannol.

“Mae uchelgais Technocamps yn wastad wedi bod i gefnogi athrawon ar eu teithiau cyfrifiadureg trwy gynnig cyfleoedd uwchsgilio hanfodol i athrawon ar draws Cymru.”

Mae ystod o fodiwlau ar gael, o raglennu i theori; mae’r rhain yn cynnwys rhoi cyflwyniad i raglennu ar gyfer athrawon, addysgu rhaglennu, addysgu systemau rhif a chodau peiriannau, ac addysgu rhaglennu ym maes roboteg.

Caiff pob uned ei chyflwyno trwy ymarferion a gweithgareddau ymarferol, wrth ochr theori a addysgir mewn ffordd atyniadol. Mae’r asesu ar gyfer pob uned yn gofyn i athrawon lunio cynlluniau gwaith electronig, manwl ac adnoddau dysgu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno cyfres o bedair gwers a mwy, sy’n dangos dealltwriaeth yr athrawon o sut i gyflwyno cynnwys pwnc pob uned mewn ffordd effeithiol ac atyniadol yn yr ystafell ddosbarth.

Caiff amser digonol ei neilltuo yn ystod y sesiynau i drafod arfer da, deilliannau dysgu, a gweithgareddau addas a fydd o help ar gyfer pob asesiad uned. Caiff dyddiadau cyflwyno eu hamserlennu drwy gydol y cwrs, a chynigir adborth ffurfiannol gan gynnwys gwelliannau awgrymiadol i asesiadau gan dîm cyflenwi Technocamps.

Bydd y cohort nesaf yn cychwyn ym mis Medi 2016, ac os oes gan unrhyw athrawon ddiddordeb mewn derbyn gwybodaeth bellach neu gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant, anfonwch e-bost i info@technocamps.com.