Siaradwr uwchsonig: Dr Ben Evans o Goleg Peirianneg Abertawe yn Venturefest 2016

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd aelod o'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe a ddyluniodd y Car Uwchsonig BLOODHOUND yn chwarae rôl allweddol yn Venturefest Cymru 2016 sydd â'r nod o ysbrydoli, hybu a chefnogi twf ac arloesi ym maes busnes yng Nghymru.

Bydd Dr Ben Evans, Uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg  Awyrofod o Goleg Peirianneg y Brifysgol, yn rhoi prif araith yn y digwyddiad buddsoddi a chydweithio a gynhelir yn Stadiwm SWALEC Caerdydd am y drydedd flwyddyn yn olynol ddydd Mercher 28 Medi.

Prif gyfraniad Prifysgol Abertawe at y fenter i adeiladu car rasio ar dir, BLOODHOUND, a fydd yn cyrraedd 1,000mya (1,609km/yr awr), oedd ei harbenigedd ym maes ymchwil Dynameg Hylifau Gyfrifiadurol (CFD), a bu ymchwilwyr o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe'n gweithio fel rhan o dîm dylunio aerodynameg y car uwchsonig.

Bydd Dr Evans, sy'n gyfrifol am efelychiadau CFD aerodynameg y car, yn siarad ar y cyd â Richard Noble OBE, yr entrepreneur adnabyddus a oedd yn dal y record am gyflymder ar dir am 14 blynedd, rhwng 1983 a 1997 gyda Thrust2 a THRUST SSC, y car cyntaf erioed i dorri'r record uwchsonig.

Dr Ben Evans with BLOODHOUND SSC

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn y diwylliant osgoi risgiau sy'n gyffredin heddiw, mae Richard Noble yn arbenigo mewn datblygu mentrau risg uchel, a bydd yn archwilio manteision busnes meddylfryd gwreiddiol ac anghonfensiynol os ydych chi o ddifrif am oresgyn eich rhwystrau i lwyddiant.

Meddai Dr Ben Evans, "Mae prosiect BLOODHOUND SSC ar fin dechrau ei gam olaf a mwyaf cyffrous, wrth i ni baratoi am yr ymgais gyntaf i dorri'r record ym mis Hydref 2017. Mae Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi gwneud cyfraniad allweddol at lwyddiant y prosiect hyd yn hyn, gan fod ymysg y darparwyr technoleg allweddol ers diwrnod cyntaf y camau cysyniad yn 2007.

"Edrychaf ymlaen at rannu manylion ein gwaith arloesol yn Abertawe â chynadleddwyr Venturefest Cymru ym mis Medi, gwaith sydd wedi chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu BLOODHOUND SSC ac sydd, unwaith eto, wedi hyrwyddo Peirianneg yn Abertawe i'r byd.

Bydd Venturefest Cymru eleni'n canolbwyntio ar oresgyn y rhwystrau cyffredin mewn busnes y mae arweinwyr busnes ac entrepreneuriaid Cymru wedi nodi eu bod yn eu rhwystro; bydd hefyd yn gyfle i fuddsoddwyr ac academyddion, entrepreneuriaid ac arloeswyr ddod ynghyd i greu partneriaethau busnes ystyrlon.

Ar ôl cynnal ymchwil marchnad i ddeall beth yw'r prif rwystrau i dwf a llwyddiant ym marn y gymuned fusnes yng Nghymru, bydd y digwyddiad am ddim yn mynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig â'r chwe thema fusnes allweddol a nodwyd, gan gynnwys: gwerthu a datblygiad busnes; cynllunio a rhagamcanu; datblygu pobl; marchnata; recriwtio a thechnoleg. Bydd pwyslais mawr ar gyllid ar gyfer y syniadau arloesol a'r busnesau entrepreneuraidd hynny.

Bydd y digwyddiad yn cynnig tri phanel o arbenigwyr, gan gynnwys unigolion a sefydliadau sy'n ariannu twf busnes ar gamau amrywiol o fuddsoddiad cychwynnol; Twf Ail Gam a Chyfres A. Bydd fforwm ariannu hefyd lle bydd busnes a'i fuddsoddwr yn adrodd eu stori ariannu ac yn cynnig cyngor i'r rhai sydd mewn sefyllfa debyg.

Yn ogystal â phrif siaradwyr, gweithdai a thrafodaethau panel, bydd Venturefest Cymru yn cynnig cyfle i gynadleddwyr weld a phrofi'r cynhyrchion a'r gwasanaethau sydd ar flaen y gad ym myd busnes Cymru, gan ddarganfod rhai o'r cyfleoedd gorau o ran pobl a buddsoddi sydd gan Gymru i'w cynnig.

Venturefest 2016 logo‌Yn ogystal, gall cynadleddwyr ddisgwyl amgylchedd sy'n dod â busnesau o bob maint ynghyd, o fusnesau newydd, busnesau sy'n tyfu, BBaCh a sefydliadau corfforaethol, ynghyd â phrifysgolion, cyrff y llywodraeth, buddsoddwyr, ymgynghorwyr a chynrychiolwyr gwasanaethau proffesiynol, gyda'r nod o gysylltu cynadleddwyr â phobl flaengar o'r un meddylfryd er mwyn rhannu gwybodaeth, syniadau a rhwydweithiau.

Meddai Ashley Cooper, Cadeirydd Venturefest Cymru, Cyfarwyddwr Catalyst Growth Partners ac aelod o banel y  Rhaglen Cyflymu Entrepreneuriaeth Ranbarthol, "Ein nod yw adeiladu ar lwyddiant sylweddol digwyddiadau blaenorol Venturefest Cymru. Daeth bron 1,000 o gynadleddwyr i ddigwyddiad y llynedd yn unig mewn ymgais i feithrin partneriaethau cydweithredol ag ymarferwyr proffesiynol eraill. Bydd Venturefest yn darparu atebion i amrywiaeth o rwystrau allweddol sy'n ffrwyno twf busnes yn rheolaidd, ni waeth beth yw'r sector.

"Mae'n hanfodol bod busnesau, ni waeth beth yw eu sector neu eu cam datblygu, yn gallu dysgu gan y rhai sydd eisoes wedi gwneud yr hyn maent am ei gyflawni; boed hynny'n buddsoddi mewn cynnyrch newydd, cael mynediad i farchnad newydd, mentro ar y cyd â phrifysgol neu gorff corfforaethol neu recriwtio'r bobl iawn i roi'r busnes mewn sefyllfa i sicrhau'r cam cyllid nesaf - ac yna dod o hyd i'r ariannwr iawn.

"Bydd Venturefest eleni'n canolbwyntio ar ysgogi cynadleddwyr i oresgyn eu rhwystrau busnes neu bersonol eu hunain ac i wneud newid sylweddol wrth gyflymu twf eu busnesau. Os bydd ymwelwyr yn gadael wedi dysgu un peth sy'n gwneud gwahaniaeth i'w busnesau, roedd yn werth eu hamser bod yno."

Mae partneriaid allweddol Venturefest Cymru 2016 yn cynnwys Innovate UK, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Cyllid Cymru, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Abertawe.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad am ddim hwn, cliciwch yma.