Project Plant yn cyrraedd rhestr fer gwobr ymgysylltu cyhoeddus

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor wedi cyrraedd rhestr fer gwobr genedlaethol am waith ymgysylltu cyhoeddus eu project Lleisiau Bach Yn Galw Allan/Little Voices Shouting Out.

Little Voices North Wales 2016 conference1

Cyrhaeddodd y project restr fer y wobr Engaging with Young People yn y gystadleuaeth genedlaethol Engage a gynhelir gan y National Coordinating Centre for Public Engagement (NCCPE), sy'n dathlu ymchwilwyr prifysgol sy'n ymgysylltu â'r cyhoedd mewn ffyrdd arloesol ac effeithiol.

Mae Lleisiau Bach Yn Galw Allan/Little Voices Shouting Out yn broject Loteri Fawr sy'n cael ei gynnal gan Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor.

Mae'r project yn gweithio gyda phlant rhwng 7 ac 11 mlwydd oed yng Nghymru, yn cefnogi plant i ddewis cwestiynau a dulliau ymchwil, dadansoddi'r canlyniadau a gwneud argymhellion ar sail eu hymchwil.

Little Voices North Wales 2016 conference2

Cyflwynodd y project yr adroddiad cyntaf erioed dan arweiniad plant o dan 11 i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn 2015, a gellir gweld effaith eu gwaith ar argymhellion y Pwyllgor yn 2016 i Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig, yn cynnwys materion yn ymwneud ag iechyd cyhoeddus megis ysmygu o gwmpas mannau chwarae plant ac addysg a hyfforddiant ynglŷn â hawliau plant. Yn ogystal â’r effaith ryngwladol, mae projectau ymchwil lleol Lleisiau Bach wedi arwain at newid cadarnhaol yn cynnwys addasiadau bychain mewn ysgolion, ym maes chwarae a'r amgylchedd ffisegol ynghyd â newidiadau a all fod yn bellgyrhaeddol mewn polisi ac ymarfer.

Mae cyrraedd rhestr fer gwobr NCCPE yn gyrhaeddiad nodedig - dewiswyd y rhestr fer o dros 180 o geisiadau sy'n dangos ystod eang o weithgareddau o ansawdd uchel i ysbrydoli ac ennyn diddordeb cynulleidfaoedd cyhoeddus.

Dywedodd yr Athro Elwen Evans, Cwnsler y Frenhines a Phennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe:

"Rydym yn falch ofnadwy o fod yn rhan o'r unig broject o Gymru i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr uchel ei pharch hon. Mae Lleisiau Bach Yn Galw Allan/Little Voices Shouting Out yn gynllun pwysig sy'n rhoi llwyfan i ymgysylltu â phlant iau, datblygu ymchwil allweddol a sgiliau cyfathrebu a galluogi gwneuthurwyr penderfyniadau ar bob lefel, o'r lleol i'r rhyngwladol, i elwa o'r ddealltwriaeth a ddaw o ymchwil y plant. Mae'n rhan o'n gwaith cyfredol ar hawliau plant a phobl ifanc, maes yr ydym yn gwbl ymroddedig iddo ac yn benderfynol i wneud gwahaniaeth ynddo."

Meddai’r Athro Dermot Cahill, Deon Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor:

"Mae'r cydweithio rhwng Prifysgolion Bangor ac Abertawe yn cynnal gwaith ymchwil i hawliau plant yn parhau i fynd o nerth i nerth; mae gosod Arwyn, aelod o dîm Abertawe, yn Ysgol y Gyfraith Bangor wedi arwain at ganlyniadau rhagorol o ran ymestyn cyrhaeddiad yr ymchwil i leoliadau gwledig ymylol ar draws Gogledd Cymru a thrwy hynny wedi galluogi lleisiau plant yn y cymunedau hynny i ddod yn rhan o'r broses ymchwil genedlaethol.

Little Voices North Wales 2016 conference3

"Ymhellach, mae gwaith Arwyn wedi meithrin cydweithrediad cryfach rhwng yr academyddion yn nau dîm ymchwil y project yn Ysgolion y Gyfraith, dan arweiniad yr Athro Jane Williams yn Abertawe a Dr Yvonne McDermott ym Mangor, a thrwy hynny wedi profi bod Prifysgolion yn gallu symbylu ymchwil ragorol drwy rannu adnoddau deallusol dynol ac asedau materol yn effeithiol. Edrychaf ymlaen at glywed mwy o bethau gwych am y project hwn, sydd eisoes wedi cael sylw Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ei Sylwadau Clo mwyaf diweddar ar berfformiad y Deyrnas Unedig fel Plaid Gwladwriaeth i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn." 

Dywedodd Paul Manners, Cyfarwyddwr NCCPE:  "Mae'r gystadleuaeth Engage yn uchafbwynt ein gwaith yn y National Co-ordinating Centre for Public Engagement. Mae'n dadorchuddio pobl, projectau, partneriaid ac ymchwil rhyfeddol. Ni chawsom ein siomi eleni. Mae ansawdd y ceisiadau wedi bod yn uwch nag erioed, yn dangos ymarfer o'r safon uchaf un o ran ymgysylltu ar draws disgyblaethau a grwpiau o gyfranwyr - yn ymestyn o'r lleol iawn at y byd-eang."

Mae chwe chategori cystadleuaeth, a bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,500 i fynd tuag at waith ymgysylltu cyhoeddus pellach. Bydd y beirniaid yn penderfynu ar yr enillwyr erbyn 28 Tachwedd, a chânt eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo fel rhan o Engage 2016, cynhadledd flynyddol yr NCCPE, ar 29 Tachwedd 2016.