Myfyriwr i lansio gwasanaeth gwrando ar gyfer dioddefwyr ymosodiad rhywiol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae gwasanaeth gwrando newydd, i gefnogi menywod sydd wedi dioddef trais rhywiol, yn cael ei sefydlu gan fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.

Listening service

Sefydlwyd y llinell gymorth gan Leah Gray, myfyriwr yn y drydedd flwyddyn sy'n astudio yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ganddi brofiad o weithio gyda llinellau cymorth tebyg yn Rhydychen a Manceinion.

Bwriad y gwasanaeth wythnosol yw darparu cymorth drwy wrando ar ddioddefwyr trais rhywiol (yn ddiweddar neu hanesyddol) yn ne Cymru.

Sylweddolodd Leah fod angen gwasanaeth gwrando yn ne Cymru. Mae trais rhywiol yn gyffredin, gydag  oddeutu 88,000 o fenywod ar gyfartaledd yn cael eu treisio bob blwyddyn1 yng Nghymru a Lloegr ac ymosodiadau rhywiol ar dros 400,000 o fenywod bob blwyddyn1.

Mae canolfan cyfeirio dioddefwyr ymosodiadau rhywiol yn Abertawe o'r enw New Pathways lle gall dioddefwyr ymosodiadau rhywiol diweddar dderbyn cymorth a chwnsela proffesiynol ac, os ydynt yn gofyn am hynny, archwiliadau meddygol a chyfweliadau gyda'r heddlu. Fodd bynnag, nid oes unrhyw linell gymorth gwrando o'r math hwn ar gyfer dioddefwyr camdriniaeth rywiol yn yr ardal.

Meddai Leah, "Gall galwyr ddisgwyl gwasanaeth gwrando hollol gyfrinachol na fydd yn eu beirniadu. Nid yw'n wasanaeth cwnsela na chynghori ac nid yw'n gysylltiedig â'r heddlu nac unrhyw sefydliad trydydd parti arall. Mae ein gwirfoddolwyr yno i wrando ar ddioddefwyr a'u cefnogi."

Darperir y gwasanaeth gan wirfoddolwyr benywaidd sydd wedi cael eu dethol yn arbennig a'u hyfforddi'n briodol. Bydd y llinell gymorth gwrando am ddim ar gael bob nos Fercher o 6.30pm tan 8.30pm o 30 Mawrth.

Mae Leah wedi derbyn cyfraniad ariannol hael  gan Gyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan (WASCH). Meddai, "Dwi'n hynod ddiolchgar i WASCH ac i'r gwirfoddolwyr anhygoel, heb y cyfraniad ariannol ac ymroddiad y gwirfoddolwyr, ni fyddai modd darparu'r gwasanaeth hwn."

Meddai Dr Ann John, Athro Cysylltiol Clinigol Iechyd Meddwl Cyhoeddus, "Leah sydd wedi arwain wrth sefydlu'r gwasanaeth gwrando gwerthfawr hwn. Ni fyddai modd darparu'r llinell gymorth heb i Leah a'i gwirfoddolwyr aberthu eu hamser rhydd, a heb y rhodd gan WASCH.

 

I gysylltu â Llinell Gymorth Trais ac Ymosodiad Rhywiol Abertawe

(07933 916186 (07933 950102

E-bost:  rapeandsexualassaulthelpline@gmail.com

1 Trosolwg o Droseddu Rhywiol, Gweinidogaeth Cyfiawnder Lloegr a Chymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Gartref, mis Ionawr 2013.