Llyfr newydd yn archwilio Profiadau Newidiol Menywod Mudol sy’n Heneiddio yn Llundain

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi cyhoeddi llyfr sy’n archwilio profiadau menywod mudol sy’n heneiddio yn Llundain.

Changing Experiences of Migrant Women

Yn Family, Citizenship and Islam: The Changing Experiences of Migrant Women Ageing in London, mae Dr Nilufar Ahmed, Uwch Swyddog Ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn edrych ar fywydau’r genhedlaeth gyntaf o ymfudwyr o Bangladesh i’r DU gan ystyried y berthynas ddeinamig rhwng pobl a lle.

Yn y llyfr, mae Dr Ahmed yn taflu goleuni ar boblogaeth ymfudwyr nad oes gennym lawer o wybodaeth amdanynt gan archwilio profiadau menywod a adawodd gartrefi gwledig i fyw yn Llundain, heb air o’r Saesneg, heb brofiad o ddefodau lleol a gan orfod addasu i fyw mewn teuluoedd sylweddol lai a fyddai’n gweithredu fel cynhalwyr diwydiant a thraddodiad o fewn y teuluoedd hynny.

Yn seiliedig ar ymchwil sy’n rhychwantu degawd, mae’r llyfr yn tynnu ar gyfweliadau ansoddol â thros 100 o fenywod.

Meddai Dr Ahmed: “Mae fy ymchwil yn archwilio cwestiynau sy’n ymwneud â hunaniaeth, perthyn, dinasyddiaeth a Phrydeindod, crefydd, heneiddio, gofal a’r teulu. Gan dalu sylw i gyfnewidioldeb profiadau y genhedlaeth gyntaf o fenywod mudol, mae’r llyfr yn cynnig dewis amgen i lawer o ymchwil ethnograffig sydd, yn aml, yn cynnig ‘cipolwg’ yn unig ar grŵp lleiafrifol neu ymfudwyr penodol sydd fel petai wedi’i rewi mewn amser.”