Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn ceisio torri Record y Byd Guinness am y "Nifer fwyaf o weithiau y caiff person ei daro gan falŵns dwr mewn tair munud gan dîm" er budd Thrombosis UK ar Ddydd Iau, 13 Hydref i gofnodi Diwrnod Thrombosis y Byd.
Digwyddiad: Torwyr Tolchenni! Cynnig Record y Byd Guinness ar y "Nifer fwyaf o weithiau y caiff person ei daro gan falŵns dŵr mewn tair munud gan dîm". I gofnodi Diwrnod Thrombosis y Byd sef ymgyrch a arweinir gan Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Thrombosis a Haemostasis (ISTH). Caiff yr holl arian a godir ei roi i Thrombosis UK.
Dyddiad: Dydd Iau, 13 Hydref 2016
Amser: Gan gychwyn am 13.30pm, bydd sesiwn taflu balŵns dŵr ar agor i'r cyhoedd trwy rodd fechan i Thrombosis UK, a gesglir yn y bwcedi casglu arian i elusennau. Cynhelir y cynnig ar dorri'r Record y Byd Guinness am 15:00pm ar ôl cynnal sesiynau ymarfer.
Lleoliad: Y tu allan i Adeilad Canolog Peirianneg, Campws y Bae Prifysgol Abertawe.
Os ydych chi'n meddwl y gallwch chi daflu balŵn dŵr 10 metr ac mae gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y cynnig ar dorri Record y Byd Guinness, cysylltwch â Dr Nafiseh Badiei, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, drwy e-bostio: N.Badiei@abertawe.ac.uk.
Gwybodaeth lawn am y digwyddiad:
Mae un person o bob pedwar person yn marw o ganlyniad i gyflyrau a achoswyd gan Thrombosis. Mae'n brif achos dros farwolaethau ac anableddau.
Thrombosis yw tolchenni gwaed a all fod yn farwol sy’n ffurfio yn y rhedweli (thrombosis rhedwelïol) neu yn y wythïen (thrombosis gwythiennol). Ar ôl i dolchen ffurfio, gall arafu neu rwystro llif gwaed a hyd yn oed gwahanu ei hun a theithio i organ. Gelwir tolchen sy'n teithio i'r system gylchrediad yn emboledd.
Gan amlaf, mae modd atal thrombosis ac mae’n batholeg o drawiadau ar y galon, strociau thrombo-embolig a thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) - sef y tri phrif achos o farwolaethau cardiofasgwlaidd.
Mae'r Bartneriaeth Effeithiau Gofal Iechyd Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol ar Ddiagnosteg a Rheoli Tolchennu Gwaed a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cynnwys athrawon, darlithwyr, ymchwilwyr ôl-ddoethurol, a myfyrwyr o Goleg Peirianneg ac Ysgol Feddygaeth y Brifysgol yn ogystal â phartneriaid ym maes diwydiant a phartneriaid o dramor.
Bydd y Bartneriaeth yn cynnal digwyddiad codi arian a chodi ymwybyddiaeth ar Gampws y Bae y Brifysgol ddydd Iau 13 Hydref lle y byddant yn rhoi cynnig ar dorri Record y Byd Guinness ar gyfer y "Nifer fwyaf o weithiau y caiff person ei daro gan falŵns dŵr mewn tair munud gan dîm".
Caiff balŵns coch, sy'n dynodi celloedd gwaed coch, eu taflu at darged i ddangos sut y gall pob un ohonom helpu i dorri tolchenni peryglus.
Mae Dr David James, Swyddog Ymchwil yn y Coleg Peirianneg, wedi gwirfoddoli i fod yn darged dynol i'r balŵns ar gyfer y cynnig ar dorri Record y Byd Guinness a hefyd bydd modd i aelodau'r cyhoedd daflu balŵns dŵr at darged sefydlog mawr a fydd yn cynnwys logo Diwrnod Thrombosis y Byd ar gyfer y sesiynau ymarfer gan roi rhodd fechan i Thrombosis UK.
Mae nifer o beirianwyr benywaidd, ymchwilwyr benywaidd ac aelodau benywaidd y Bartneriaeth Effeithiau Gofal Iechyd Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol o Abertawe, sydd wedi helpu i drefnu'r digwyddiad hwn, yn credu bod y risg o thrombosis i fenywod yn rhywbeth sydd, yn aml, yn cael ei anwybyddu. Mae'r tîm yn teimlo ei bod yn bwysig i ddefnyddio'r digwyddiad hwn i bwysleisio'r risg iechyd penodol hwn a chodi ymwybyddiaeth amdano.
Meddai un o drefnwyr y digwyddiad, Dr Bethan Thomas, Cynorthwyydd Ymchwil gyda Phartneriaeth Effeithiau Gofal Iechyd Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol yn Ysgol Feddygaeth y Brifysgol: "Mae fy ngwaith yn cynnwys ymchwil a datblygu peirianneg ar gyfer profion diagnosteg gwaed newydd trwy fesur priodoleddau mecanyddol tolchenni iach a tholchenni afiach.
"Fel rhan o'n digwyddiad codi arian ar gyfer Diwrnod Thrombosis y Byd, roeddwn i a'm cydweithwyr yn wirioneddol eisiau rhoi sylw penodol a chodi ymwybyddiaeth am y risg thrombosis i fenywod oherwydd gwn fod nifer o bobl yn credu bod thrombosis neu glefyd y galon yn achosi risg iechyd i ddynion yn unig.
"Trwy siarad am thrombosis, gan gynnwys yr hyn sy'n cynyddu eich siawns o brofi pwl a'r symptomau cyffredin, gallwn helpu i'w atal a lleihau'r risg o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd i bawb."
Sut i gefnogi'r digwyddiad hwn: Gallwch roi arian ar ddiwrnod y digwyddiad trwy roi arian mewn un o'r nifer o fwcedi i gasglu arian at elusennau neu gallwch roi arian trwy dudalen JustGiving y digwyddiad ar www.justgiving.com/fundraising/David-James52.
- Dydd Mercher 28 Medi 2016 01.00 BST
- Dydd Mercher 5 Hydref 2016 13.17 BST
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295049