Diogelu yfory drwy helpu heddiw: annog pobl i gofrestru ar gyfer prosiect ymchwil arloesol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae pobl Abertawe a’r cyffiniau’n cael eu hannog i ddysgu mwy am brosiect ymchwil arloesol sy’n ceisio datblygu gwell dealltwriaeth o iechyd y genedl.

Astudiaeth ymchwil gyfrinachol yw Doeth am Iechyd Cymru a dyma’r prosiect mwyaf o’i fath drwy Ewrop. Y nod yw cynyddu rôl y cyhoedd mewn prosiectau ymchwil a datblygu dealltwriaeth fanwl o batrymau iechyd pobl Cymru. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i wella iechyd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol ac yn helpu’r Gwasanaeth Iechyd i baratoi a chynllunio ymlaen llaw. 

Bydd stondin tîm Doeth am Iechyd Cymru wedi’i gosod ym Mhrif Adeilad Campws Singleton, Prifysgol Abertawe rhwng 9am a 5pm ddydd Gwener 7 Hydref i roi cyfle i’r cyhoedd ddysgu mwy am y fenter a chofrestru i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil.

Doeth am Iechyd Cymru / HealthWise Wales Gobaith yr astudiaeth yw recriwtio 260,000 o bobl sy’n 16 oed a throsodd dros gyfnod o bum mlynedd. Caiff y rhai fydd yn dewis cymryd rhan eu holi bob chwe mis am eu ffordd o fyw, eu iechyd a’u lles. Bydd gwybodaeth bersonol a gwybodaeth feddygol y rhai sy’n cymryd rhan yn aros yn gyfrinachol, a dim ond at ddibenion yr ymchwil y bydd yn cael ei defnyddio.

Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans: “Mae Doeth am Iechyd Cymru’n gyfle gwych i ni i gyd gyfrannu at wella iechyd a lles ein plant a phlant ein plant, drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth ymchwil arloesol hon. Os ydych chi dros 16 oed ac yn byw yng Nghymru, gallwch ein helpu i ddeall iechyd y genedl yn well. Byddwch yn cael eich holi bob chwe mis am eich iechyd, eich llesiant a’ch ffordd o fyw. 

“Bydd ymchwilwyr yn astudio eich iechyd dros y blynyddoedd nesaf, fel ein bod yn dod i ddeall sut i wella’r dewis o driniaethau, gwella’r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, a gwella iechyd a lles y cyhoedd yn gyffredinol. Ry’n ni angen cymaint o bobl â phosib i gymryd rhan – beth bynnag fo’ch oed, lle bynnag fo’ch cartref, a ph’un a ydych yn iach neu’n sâl. Rwy’n annog pawb sy’n byw yn Abertawe a’r cyffiniau i fynd i’r sioe deithiol ddydd Gwener i gael rhagor o wybodaeth.”

Tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n arwain yr astudiaeth ymchwil, gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Abertawe.

Meddai’r Athro Shantini Paranjothy o Brifysgol Caerdydd, Arweinydd Gwyddonol y prosiect: “Mae’r cyhoedd yn rhan annatod o’r astudiaeth. Mae croeso i unrhyw un dros 16 oed sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru gymryd rhan – yn ifanc neu’n hen, yn iach neu’n sâl a does dim ots lle maen nhw’n byw. Mae cynifer o ffactorau’n effeithio ar ein iechyd a’n lles – bydd yr astudiaeth gynhwysfawr hon yn ein helpu ni i ddeall y ffactorau hyn yn well, fel ein bod yn gallu llunio cynllun er mwyn gwella iechyd cenedlaethau’r dyfodol. Ry’n ni angen cymaint o bobl â phosib i gofrestru – y mwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, gorau oll fydd y canlyniadau.”

Dywedodd Ronan Lyons, Athro Iechyd y Cyhoedd, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: “Mae’n fraint i Brifysgol Abertawe fod yn rhan o’r gwaith ymchwil pwysig hwn fydd yn goleuo’r ffordd ymlaen o ran mynd i’r afael â materion iechyd a lles pobl ledled Cymru a gwella’r sefyllfa bresennol. Mae ein system gyfrinachedd (SAIL) yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel system sydd ar flaen y gad gan ei bod yn caniatáu i ymchwilwyr ddefnyddio data tra’n sicrhau bod cyfrinachedd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael ei warchod.”

Cynhelir y sioe deithiol olaf ym mhrif gyntedd Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ar 13 Hydref ac mae unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y gwaith ymchwil yn cael eu hannog i fynd i’r digwyddiad.