Cartref parhaol ym Mhrifysgol Abertawe i bortread o Richard Burton a wnaed o lechi 500 miliwn mlwydd oed

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae mosäig unigryw o’r actor Richard Burton a wnaed o lechi 500 miliwn mlwydd oed o Gonwy wedi cael ei dadorchuddio gan ei ferch, Kate Burton, ym Mhrifysgol Abertawe.

Defnyddiodd yr artist Ed Chapman lechi o Chwarel Rhiwbach yng Nghonwy i greu’r portread ym mis Tachwedd y llynedd i nodi pen-blwydd Richard Burton yn 90 mlwydd oed.

Mae gan y mosäig, a gymrodd wythnosau i'w chreu, gartref newydd yn agos i Bontrhydyfen, man geni'r actor fu farw yn 1984 yn 58 oed, a hynny yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.

“Rwyf wedi edmygu gwaith Richard Burton am flynyddoedd, ac roeddwn i am greu darlun unigryw ohono gan ddefnyddio rhywbeth Cymraeg” meddai Mr Chapman.

Richard Burton mosaic

Cyn i’r mosäig gael ei dadorchuddio, cafodd Kate Burton a Guy Masterson, gor-nai Richard Burton, gyfle i ymweld ag Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe i edrych ar ddarnau o Gasgliad Richard Burton.

Mae Casgliad Richard Burton yn cynnwys dyddiaduron, llyfrau, lluniau a phosteri ffilm, yn ogystal ag adroddiadau ysgol o Ysgol Uwchradd Port Talbot o’r adeg pan fuodd Richard Jenkins, Richard Burton yn ddiweddarach, yn ddisgybl yno.

Richard Burton mosaic unveiling O'r chwith i'r dde: Guy Masterson, Kate Burton a Sian Owen. 

Cyflwynwyd Casgliad Richard Burton i Brifysgol Abertawe yn 2005 gan ei wraig weddw, Sally Burton. Pum mlynedd yn ddiweddarach, ail-enwyd Archifau’r brifysgol yn Archifau Richard Burton.

Meddai Kate Burton: “Braint enfawr oedd dadorchuddio’r mosäig hardd hwn ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf i a’r teulu cyfan yn hynod ddiolchgar.”

Ychwanegodd Hywel Francis, AS Aberafan, 2001 - 2015: “Hoffwn ddiolch i wraig Richard Burton, Sally, am ei charedigrwydd wrth gomisiynu Ed Chapman i greu’r portread arbennig yma. Tra’n Aelod Seneddol dros Aberafan, braint oedd cydweithio â Sally a Phrifysgol Abertawe am dros ddegawd wrth gydnabod a dathlu bywyd a gwaith Richard Burton yn ei fro enedigol. Mae rhoi cartref i’r darlun hwn yn Neuadd Fawr Campws y Bae yn ffordd addas o goffáu’r actor yn etholaeth Aberafan.”