Cangen newydd Santander yn agor ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Santander wedi cryfhau ei berthynas gyda Phrifysgol Abertawe wrth agor cangen newydd ar Gampws y Bae.

Bydd y gangen yn cynnig amrywiaeth eang o gynhyrchion a gwasanaethau i gymuned y Brifysgol a'r gymdogaeth amgylchynol, a bydd peiriant arian i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr ei ddefnyddio.

Bydd hyn yn ychwanegiad i'w groesawu at gyfleusterau Campws y Bae ac yn arwydd o lwyddiant partneriaeth y Brifysgol â Santander.

Meddai’r Athro Richard B, Davies, is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i barhad ein partneriaeth ffyniannus â Santander, cwmni sy'n cydnabod buddion addysg uwch ac yn rhannu ein dymuniad i greu cyfleoedd newydd i staff a myfyrwyr. Ers i ni ymuno â rhwydwaith Prifysgolion Santander yn 2014, mae staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi elwa o nifer o grantiau ac ysgoloriaethau teithio sydd wedi hwyluso symudedd ac ymgysylltu â sefydliadau ledled y byd. Yn ogystal â hyn, mae partneriaeth Santander wedi darparu cymorth i fyfyrwyr gychwyn busnesau newydd a chynllun interniaeth sy'n darparu lleoliadau gyda chwmnïau bach a chanolig lleol i fyfyrwyr.”

Ychwanegodd Matt Hutnell, cyfarwyddwr Prifysgolion Santander: “Rwyf wrth fy modd ein bod yn ymestyn ein gwasanaethau cangen i Gampws y Bae ym Mhrifysgol Abertawe. Mae agoriad ein cangen gyntaf ar gampws Parc Singleton wedi profi’n boblogaidd iawn. Rydyn yn ymfalchïo yn ein perthynas â Phrifysgol Abertawe, a does dim amheuaeth y bydd y gangen newydd hon yn cryfhau’n perthynas arbennig ymhellach.”

Oriau agor y gangen:

Dydd Llun: 10am - 6pm

Dydd Mawrth: 10am - 6pm

Dydd Mercher: 10.30am - 5.00pm

Dydd Iau: 10am - 6pm

Dydd Gwener: 10am - 6pm

Rhif ffôn y gangen yw 05511 486405.