Abertawe i gynnal Cynhadledd Flynyddol WISERD 2016

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe fydd lleoliad Cynhadledd Flynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yr haf hwn a gynhelir ddydd Mercher 13 Gorffennaf a dydd Iau 14 Gorffennaf.

WISERD banner

 

 

 

 

Mae’r digwyddiad deuddydd hwn, sef cynhadledd gwyddorau cymdeithasol fwyaf Cymru sy’n denu siaradwyr a chynadleddwyr rhyngwladol, yn argoeli bod yn fwy ac yn fwy disglair nag erioed yn 2016.

Ymhlith y rhestr neilltuol o siaradwyr gwadd eleni y mae Ottón Solís, un o sylfaenwyr Citizen’s Action Party (PAC) Costa Rica; Andrew Oswald, Athro Economeg ym Mhrifysgol Warwig; David B Grusky, Athro Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Stanford; a Mike Hout, Athro Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Efrog Newydd.

Bydd digwyddiad eleni hefyd yn cynnig mwy o ddewis o ran sesiynau i gynadleddwyr yn ogystal â sesiynau llawn, gweithdai, arddangosfa fasnachol, a rhwydweithio mewn ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol cyffrous.


Sefydlwyd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn 2008. Mae’r Sefydliad yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. 

Prif nodau WISERD yw fel a ganlyn:

  • Datblygu ansawdd a swm ymchwil gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig trwy brosiectau ymchwil a ariennir yn allanol
  • Hyrwyddo gweithgarwch ymchwil ar y cyd ar draws y prifysgolion sy’n cymryd rhan ac ar draws disgyblaethau a sectorau
  • Datblygu’r seilwaith ymchwil gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru
  • Cryfhau effaith ymchwil gwyddorau cymdeithasol ar lunio polisi yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector trwy ganolbwyntio ar gyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu.