Unigolyn Mewnol y Flwyddyn y DU: Gwobr Sector Cyhoeddus i Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol y Brifysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Ceri Bird, Pennaeth Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol Prifysgol Abertawe, wedi ennill categori ‘Unigolyn Mewnol y Flwyddyn y DU: Sector Cyhoeddus’ yng ngwobrau Legal 500 eleni.

Ceri BirdMae Ceri, a raddiodd o Goleg y Gyfraith Prifysgol Abertawe ym 2009, yn gyfreithiwr gweithredol ac ymunodd â’r Brifysgol ym mis Hydref 2013 fel ei Chynghorydd Cyfreithiol. Ym mis Hydref 2014, daeth yn Bennaeth y Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol .

Mae Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol y Brifysgol yn rhan o Swyddfa’r Is-ganghellor ac mae’n darparu cymorth a chyngor cyfreithiol ar ystod gynhwysfawr o faterion cyfreithiol yn ymwneud â gwaith y Brifysgol, ar gyfer ei Cholegau a’i Hadrannau Gweinyddol.

Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, gweithiodd Ceri i Ddinas a Sir Abertawe am 10 mlynedd ac mae ganddi brofiad mewn amrywiaeth o feysydd cyfreithiol gan gynnwys eiddo, cytundebau masnachol, caffael, cyflogaeth, cyflog cyfartal, tai, priffyrdd a chynllunio, amddiffyn rhag llifogydd, addysg, ac elusennau.

Dyfernir gwobrau Legal 500 i gyfreithwyr a thimoedd mewnol ar sail yr ymchwil a wneir ar gyfer cyfeirlyfrau Legal 500. Trwy ymchwil gynhwysfawr a sgyrsiau gyda chyfreithwyr mewn practisiau preifat, arbenigwyr, a chyfreithwyr mewnol eraill, mae tîm  Legal 500 yn adnabod unigolion a grybwyllwyd am waith rhagorol, sydd wedyn yn cael eu dethol yn flynyddol i dderbyn y gwobrau.

Wrth siarad am ennill y wobr gan Legal 500, meddai Ceri: “Mae’n syndod ac yn anrhydedd mawr cael fy nghydnabod yn y ffordd hon gan fy nghydweithwyr a’m cymheiriaid ar gyfer fy ngwasanaethau proffesiynol i Brifysgol Abertawe.

“Mae’n bleser gennyf dderbyn y wobr hon, yn ogystal â’r gwahoddiad i fynychu cinio gwobrwyo Legal 500 yn Llundain ar ddydd Mawrth, Tachwedd 10, lle bydd pawb sydd wedi ennill gwobr eleni yn derbyn eu gwobrau.”