Tlws Cwpan Rygbi'r Byd 2015 i ymweld â Phrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Fel rhan o Daith Dlws Cwpan Rygbi’r Byd, bydd gan ddisgyblion lleol gyfle i weld y Cwpan Webb Ellis enwog pan fydd yn ymweld â Phrifysgol Abertawe ddydd Mawrth 30 Mehefin.

Mae’r daith, a lansiwyd ar 10 Mehefin, yn nodi 100 diwrnod tan ddechrau Cwpan Rygbi’r Byd 2015.  

Cwpan Rygbi'r Byd 2015Yn ystod y daith, bydd y tlws yn teithio drwy’r Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Cymru a Lloegr cyn cyrraedd Stadiwm Twickenham ar 18 Medi  cyn y Seremoni Agoriadol. Mae'r Tlws eisoes wedi bod ar daith ryngwladol o amgylch y byd. 

Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle i ddisgyblion lleol gymryd rhan mewn twrnamaint rygbi saith-bob-ochr, yn ogystal â rhoi cyfle i’r plant weld tlws mwyaf nodedig y byd rygbi.

Mae’r digwyddiad hwn drwy wahoddiad yn unig, ac nid yw ar agor i’r cyhoedd.

Mae Prifysgol Abertawe yn ganolfan dîm swyddogol ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, ac yn darparu llety a chyfleusterau i garfanau rygbi Canada a Fiji cyn Cwpan Rygbi'r Byd 2015. Bydd y timoedd yn defnyddio’r cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf sydd gan y brifysgol wrth iddynt baratoi am yr her fwyaf ym myd rygbi.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach ynglŷn â thaith Tlws Cwpan Rygbi'r Byd.