Sut mae ein dealltwriaeth o hanes y Ddaear wedi newid? Darlith cyhoeddus

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Earth's Deep History: How It Was Discovered and Why It Matters, Yr Athro Martin Rudwick

Cyflwyniad Gwobr Dingle a'r Araith Dderbyn

Darlithfa Faraday, Prifysgol Abertawe

Dydd Gwener, 3 Gorffennaf, 5:15-6:00 pm

Croeso i bawb

Sut mae ein dealltwriaeth o hanes y Ddaear wedi newid? Pwy wnaeth y darganfyddiadau allweddol am orffennol ein planed? Sut mae'r wybodaeth hon wedi siapio ein hanes dynol, llawer byrrach, ein hunain?
 
Mae enillydd Gwobr Dingle 2015, yr Athro Martin Rudwick, yn ystyried y cwestiynau hyn, a mwy, yn ei lyfr ardderchog, Earth’s Deep History. O ddamcaniaethau Daear ifanc yr ail ganrif ar bymtheg i ddarganfyddiadau rhyfeddol y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae unigolion chwilfrydig wedi cwestiynu stori datblygiad ein planed.

Ymunwch â ni am daith drwy orffennol hir y Ddaear ac ymdrechion llawer mwy diweddar i'w hesbonio a'i deall.
 
Sefydlwyd Gwobr Dingle ym 1997 i nodi pymtheng mlynedd o Gymdeithas Hanes Gwyddoniaeth Prydain, ac enwyd ar ôl y mathemategydd, seryddwr ac athronydd gwyddoniaeth, Herbert Dingle, a oedd yn un o sefydlwyr y Gymdeithas. Dyfarnwyd y Wobr bob dwy flynedd ar gyfer y llyfr hanes gwyddoniaeth gorau i bobl nad ydynt yn arbenigwyr.

Mae rhagor o wybodaeth am y Wobr, gan gynnwys manylion enillwyr blaenorol, ar gael yn www.bshs.org.uk/prizes/dingle-prize.