Partneriaeth Prifysgol Abertawe'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i hyfforddi peirianwyr awyrofod y dyfodol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn dilyn agor Coleg Peirianneg newydd sbon Prifysgol Abertawe sydd รข chyfleusterau o'r radd flaenaf ac sydd wedi'i leoli yng Nghampws y Bae a agorwyd yn ddiweddar, rydym wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu buddsoddi mewn prosiect newydd ar y cyd i hyfforddi peirianwyr awyrofod y dyfodol.

jane hutt ibt signing‌Yr wythnos hon (dydd Mawrth, Medi 22), cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, yn rhan o becyn buddsoddi cyfalaf gwerth £46miliwn, y caiff £2.7 miliwn ei fuddsoddi mewn cyfleusterau hyfforddi Airbus ac Awyrofod ar gyfer hyfforddiant lefel uchel a chymorth parhaus ar gyfer gweithgynhyrchu awyrofod.  

Bydd y prosiect ar y cyd, rhwng Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe a Choleg Cambria, yn cynnwys agor Canolfan Peirianneg Awyr Addysg Uwch newydd yn safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria, gyda chysylltiad penodedig â'n Hardal Beirianneg newydd yng Nghampws y Bae. Bydd y cyfleusterau yn y ddau sefydliad yn hyfforddi hyd at 75 o brentisiaid Airbus a chyflogeion awyrofod y flwyddyn unwaith y bydd yn gweithredu'n llawn.

Meddai'r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Rydym wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru wedi dewis buddsoddi yn y prosiect hwn â Choleg Cambria, sy’n un o brif golegau Addysg Uwch y DU ac yn goleg sydd â chysylltiadau rhagorol â diwydiant lleol.

"Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe yw un o'r 10 gorau yn y DU ac mae'r buddsoddiad hwn yn cydnabod y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud ym meysydd ymchwil gweithgynhyrchu a deunyddiau yma.

"Mae'r Brifysgol eisoes â phartneriaeth sefydledig sy'n ehangu gyda Choleg Cambria ac mae wedi creu perthynas ardderchog gyda chwmnïau awyrofod a pheirianneg lleol dros nifer o flynyddoedd.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi cysylltiadau rhwng Ardal Beirianneg Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi'r Bae newydd Abertawe a Chanolfan AU newydd yng Ngholeg Cambria, a bydd yn darparu hyfforddiant wedi'i arwain gan ymchwil i gefnogi'r diwydiant awyrofod a gweithgynhyrchu lleol. Bydd hefyd yn cynnig yr arbenigedd ymchwil a'r cyfleusterau a leolir ar ein campws newydd, Campws y Bae, i fusnesau peirianneg yng Ngogledd Cymru. 

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda Choleg Cambria i ddarparu hyfforddiant ansawdd uchel, gan ddatblygu gweithlu awyrofod medrus a chan sbarduno twf Economaidd."