Myfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau Myfyrwyr y Nursing Times 2015

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cyhoeddwyd ar ddydd Mercher, 18 Mawrth, bod staff a myfyrwyr o Goleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer mewn pedwar categori yng Ngwobrau Myfyrwyr y Nursing Times 2015.

Mae Heulwen Morgan-Samuel, Uwch-ddarlithydd Nyrsio, wedi’i henwi yng nghategori ‘Addysgwr y Flwyddyn’. 

SNTA2015 Staff and Students Mae’r myfyrwyr Suzannah Wilton-Baker,23, o Lambed, Tynam Payne, 22, o Lanelli, a Kirsty Jones, 29, o ardal Pwll yn  Sir Gâr, i gyd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Myfyriwr Nyrsio’r Flwyddyn: Oedolyn

Mae Angharad Hughes, myfyriwr 25 mlwydd oed o ardal Gorseinon, ar y rhestr fer yng nghategori Myfyriwr Nyrsio’r Flwyddyn: Plant

‌Bydd Keith Bradley-Adams ac Elaine Jones, Uwch-ddarlithwyr Nyrsio, yn cynrychioli’r Brifysgol yng nghategori Cwrs y Flwyddyn - Dychwelyd at Ymarfer.

Mwy o enwebiadau nag erioed o’r blaen

Simone Bedford, Uwch-ddarlithydd Nyrsio, sydd wedi’i lleoli ar gampws Dewi Sant, Caerfyrddin, oedd yn gyfrifol am gyflwyno enwebiadau’r brifysgol o’r gwobrau blynyddol hyn, sydd eleni wedi derbyn mwy o enwebiadau nag erioed o’r blaen.

Bydd y terfynwyr yn cyflwyno i banel o 34, sy’n cynnwys

Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn awr yn cyflwyno i’r panel 34 aelod o addysgwyr proffesiynol uchel eu parch, gan gynnwys:

  • Dr Theresa Shaw – Sefydliad Astudiaethau Nyrsio
  • Ian Norris – Coleg Nyrsio Brenhinol
  • Hazel Watson – GIG Lloegr
  • Dr Peter Carter – Coleg Nyrsio Brenhinol
  • Mary Crawford – Ysgol Nyrsio a Bydwreigaeth Florence Nightingale, Coleg King’s, Llundain

‌Meddai Dr Pauline Griffiths, Pennaeth Adran Nyrsio’r Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cyrraedd Gwobrau Myfyrwyr y Nursing Times eto eleni; mae’n gamp enfawr i’r Coleg. Mae’r ffaith fod pedwar o fyfyrwyr ac aelod o staff wedi’u henwebu yn profi safon uchel y myfyrwyr a’r staff sydd gennym yma o fewn y Coleg.

“Rydym yn falch iawn o bob un o’n enwebeion, a dymunwn bob llwyddiant iddynt. Mae fy mysedd wedi croesi ar gyfer y seremoni wobrwyo!”

Dathlu'r goreuon

Mae Gwobrau Myfyrwyr y Nursing Times ­yn dathlu'r goreuon ym maes addysg nyrsio, yn cydnabod ac yn gwobrwyo sefydliadau addysgol ardderchog, ac yn anrhydeddu'r rheiny sydd wedi ymrwymo i ddatblygu talent nyrsio newydd megis mentoriaid, darlithwyr a darparwyr lleoliadau.

Bydd y terfynwyr o Abertawe yn teithio i Lundain ar ddydd Llun, 23 Mawrth, pan fydd ganddynt gyfle i drafod eu henwebiadau gyda’r beirniaid.

Cyhoeddir enwau'r enillwyr mewn seremoni wobrwyo arbennig yng ngwesty’r Hilton, Pak Lane, Llundain, ar nos Iau, 7 Mai.