Myfyrwraig Nyrsio o Brifysgol Abertawe yn cael ei hethol yn Gynrychiolydd Myfyrwyr RCN Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwraig nyrsio o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe wedi’i hethol yn Gynrychiolydd Nyrsio y Coleg Nyrsio Brenhinol dros Gymru

Cafodd y fyfyrwraig Suzannah Wilton-Baker, sydd yn ei thrydedd flwyddyn ac sy’n dod o Lanbedr Pont Steffan ac sy’n astudio nyrsio oedolion ar Gampws Parc Dewi Sant y Coleg yng Nghaerfyrddin, ei hysbrydoli i’w henwebu ei hun ar gyfer y rôl ar ôl mynychu Cyngres RCN 2014.

Meddai Suzannah: “Roeddwn i wedi synnu gan gryfder llais y nyrsys dan hyfforddiant a’r ysgogiad gan y 12 o gynrychiolwyr a oedd yn eu harwain.”

Suzanne Wilton-Baker

“Erbyn hyn, rwyf yn un o’r ffigyrau blaengar ar gyfer nyrsys dan hyfforddiant a byddwn yn rhoi syniadau, materion a phryderon gerbron cyfarfodydd fy mod yn eu mynychu er mwyn dylanwadu a newid arferion ar gyfer nyrsys dan hyfforddiant. Mae gan nyrsys o dan hyfforddiant lais mwy; wedi’r cyfan, ni yw cenhedlaeth nyrsio’r dyfodol.

“Edrychaf ymlaen at y cyfleoedd a’r heriau newydd y bydd fy rôl heb os yn eu cynnig. Fy nod yw ysbrydoli ac ysgogi myfyrwyr eraill a byddaf yn defnyddio fy safle i newid a dylanwadu’n gadarnhaol ar arferion a hyfforddiant nyrsio o dan hyfforddiant lle bynnag y bo’n bosib.”

“Hoffwn ddiolch i’r holl fyfyrwyr sydd wedi treulio amser yn pleidleisio, rwy’n ddiolchgar iawn. Yn ail, hoffwn ddiolch i’r tîm o staff bendigedig ym Mhrifysgol Abertawe am eu holl waith caled, eu hymroddiad a’u cefnogaeth, gwn fy mod yn siarad ar ran y myfyrwyr oll wrth ddweud ein bod yn wir ddiolchgar am yr hyn yr ydych chi’n ei wneud.”

Meddai Tiwtor Personol Suzannah, Heulwen Morgan-Samuel: Mae Suzannah bob amser yn ymdrechu i wneud ei gorau glas ym mhob peth a dengys hyn yn ei ffordd ofalgar, atebol o ofalu am unigolion. Mae Suzannah yn cyfathrebu’n ardderchog ac mae cael ei hethol yn gynrychiolydd myfyrwyr RCN Cymru yn gyfle ardderchog iddi ddangos ei sgiliau ar lefel genedlaethol. Mae clinigwyr a chleifion yn clodfori Suzannah, yn union fel y gwnaeth y NMC yn dilyn eu hymweliad diwethaf â’r Coleg. Rwy wrth fy modd bod Suzannah wedi’i hethol ac yn sicr iawn y bydd hi’n parhau i ymroi 100% i’w nyrsio, i’w chleifion a’i chyd-fyfyrwyr.