Mae'r Brifysgol yn gwahodd cynulleidfa i'w chystadleuaeth thesis tair munud

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd Prifysgol Abertawe'n cynnal digwyddiad a fydd yn herio eu cyfathrebwyr ymchwil ôl-raddedig gorau i gyflwyno eu gwaith mewn tair munud yn unig.

3 minute thesis Cynhelir y Gystadleuaeth Thesis Tair Munud (3MT) ddydd Llun 23 Chwefror o 10am tan 12pm, wedi'i dilyn gan ginio a seremoni cyflwyno'r gwobrau. Mae'r gystadleuaeth am ddim ac yn agored i'r cyhoedd a'i diben yw profi sgiliau myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig o bob maes ymchwil. 

Yn y digwyddiad, bydd ymchwilwyr yn egluro eu gwaith i'r gynulleidfa, gan lynu wrth dair rheol syml ond llym:

  • Mae'n rhaid i gyflwyniadau gadw at 3 munud
  • Caiff cyflwynwyr ddefnyddio un sleid PowerPoint llonydd gan ddefnyddio templed safonol thesis tair munud.
  • Ni chaniateir defnyddio cyfryngau na chynorthwyon eraill.

Trefnwyd y gystadleuaeth gan Wasanaethau Datblygu a Hyfforddiant a'r Sefydliad Ymchwil ar gyfer Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol. 

Meddai'r Athro Nuria Lorenzo-Dus, Cyfarwyddwr Academaidd Gwasanaethau Datblygu a Hyfforddiant: "Mae'n her ond mae'n werth rhoi cynnig arni.  Mae'n rhoi cyfle i ymchwilwyr gymryd rhan mewn digwyddiad ymchwil amlddisgyblaeth a fydd yn hogi eu sgiliau cyflwyno er mwyn cyfathrebu â chynulleidfa, sy'n sgil hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol."

Bydd enillydd y wobr gyntaf yn derbyn £150 ac yn cael lle yn rownd gynderfynol 3MT Vitae UK.  Bydd yr ail ymgeisydd gorau'n derbyn £100 a'r drydedd wobr fydd £50.  Cynhelir cystadleuaeth poster i ôl-raddedigigion i gyd-fynd â'r digwyddiad. I gael manylion, ewch i'r dudalen digwyddiadau ar wefan Gwasanaethau Datblygu a Hyfforddiant.

Datblygwyd y gystadleuaeth thesis tair munud gan Brifysgol Queensland ac mae wedi cydio yn nychymyg academyddion ar draws y byd  gan ddatblygu'n frand a adnabyddir yn fyd-eang.