Mae Prifysgol Abertawe yn penodi ar gyfer 30 o swyddi allweddol, gan gynnwys penaethiaid coleg, athrawon cysylltiol a darlithwyr.

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Daw’r swyddi newydd yn sgil llwyddiant Prifysgol Abertawe yng nghanlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF). Neidiodd Prifysgol Abertawe o safle 52 yn 2008 i safle 26 yn 2014, y naid uchaf ar y tabl gan Brifysgol ymchwil-ddwys yn y DU.

Mae swyddi yn cael eu hysbysebu ym mhob un o'r saith o golegau yn y brifysgol:

  • Celfyddydau a’r Dyniaethau
  • Gwyddoniaeth
  • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
  • Meddygaeth
  • Peirianneg
  • Reolaeth
  • Y Gyfraith

Mae’r brifysgol yn cyflawni gwaith ymchwil o safon byd-eang ym mhob un o’r colegau hyn, a bydd y swyddi newydd yma yn cynorthwyo’r brifysgol i barhau i godi i’r entrychion.

Bydd Campws y Bae, ein campws gwyddoniaeth ac arloesi newydd, yn agor ym mis Medi 2015, datblygiad gwerth £450 miliwn, ac sy’n un o brosiectau economi wybodaeth mwyaf Ewrop.

Wave turbine