Hwb gwerth 11m Ewros i Fusnesau Bach a Chanolig y DU sydd am arloesi ac ymestyn dramor

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'n bleser mawr gan Brifysgol Abertawe gyhoeddi ei bod wedi ymrwymo i bartneriaeth â chonsortiwm uchelgeisiol newydd sy'n gweithredu ar draws y DU, Rhwydwaith Menter Ewrop ac Innovate UK.

Rhwydwaith Menter Ewrop yw'r rhwydwaith cyfryngu mwyaf yn y byd ar gyfer busnesau bach a chanolig (BBaCh) a masnach. Dan arweiniad Innovate UK, a chydag 21 o bartneriaid rhanbarthol yn y DU, mae'r consortiwm wedi ennill cyllid gwerth 11m Ewros gan yr UE i gefnogi BBaCh yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae'r consortiwm yn cynnig cefnogaeth, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig â photensial sylweddol i dyfu, gyda masnachu rhyngwladol, technolegau sy'n datblygu ac ymchwil gydweithredol. Mae'r gwasanaethau'n cynnwys nodi partneriaid masnachol ac academaidd rhyngwladol newydd; cymorth i ddod o hyd i gyflenwyr a dosbarthwyr dramor; cymorth i ddatblygu gweithgareddau arloesi ac ymchwil a datblygu; arweiniad i eiddo deallusol; gwybodaeth am ddeddfwriaeth, cystadleuaeth ac am y farchnad; a chymorth wrth gael mynediad i gyllid yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesi.

Darperir y gwasanaeth hwn yng Nghymru gan Adran Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe a BIC Innovation Ltd. 

Meddai Ceri Jones, Cyfarwyddwr Adran Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe,

"Mae'n bleser mawr gan Brifysgol Abertawe gyhoeddi ei phartneriaeth â chonsortiwm newydd Rhwydwaith Menter Ewrop ac Innovate UK. Fel prifysgol a sefydlwyd 'gan ddiwydiant, ar gyfer diwydiant', mae gan Abertawe dreftadaeth hir o gefnogi busnesau i fasnacheiddio syniadau newydd a chan mai Rhwydwaith Menter Ewrop yw'r rhwydwaith masnach mwyaf yn y byd ar gyfer BBaCh a phrifysgolion, gallwn gynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i fusnesau dyfu.

"Gall Rhwydwaith Menter Ewrop helpu busnesau a phrifysgolion i chwilio am bartneriaid, i ryngwladoli, i ddatblygu sgiliau busnes ac i dderbyn cefnogaeth un i un ym maes arloesi a throsglwyddo technoleg. Mae cylch gorchwyl Rhwydwaith Menter Ewrop yn cydweddu i'r dim â Phrifysgol Abertawe, oherwydd ein cysylltiadau hynod gryf â busnesau technoleg, y gymuned fuddsoddi a phrifysgolion eraill yng Nghymru."

Yn gymuned anferth o 600 o swyddfeydd datblygu busnes ar draws 54 o wledydd, mae Rhwydwaith Menter Ewrop wedi darparu gwasanaethau trosglwyddo technoleg a rhyngwladoli ers 2008. Mae'n cynnig gwasanaethau cyflwyno busnesau a fetio trawswladol er mwyn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau cydweithredol, gan gynnwys masnachu, technolegau newydd a hwyluso gweithgareddau ymchwil arloesol.

Enghraifft o gymorth a ddarparwyd gan Rwydwaith Menter Ewrop drwy'r Adran Ymchwil ac Arloesi

Bu Rhwydwaith Menter Ewrop yng Nghymru'n cynorthwyo BBaCh o Drefynwy, E2L Ltd, i nodi partneriaid busnes newydd yng Nghanada a'r Weriniaeth Tsiec a oedd â diddordeb mewn dosbarthu eu cynhyrchion golau arloesol. Mae'r cwmni wedi datblygu ystod o dechnolegau galluogi arloesol sy'n addas ar gyfer pobl hŷn ac anabl.

Mae golau nos diweddaraf E2L yn ddyfais ddiogel sy'n allyrru golau y gellir ei dywyllu'n ddigonol i ganiatáu cwsg di-dor, ond mae'n ei gwneud yn hawdd i'r defnyddiwr weld/ddod o hyd i eitemau hanfodol (e.e. meddyginiaeth, sbectol, cloc, dŵr), heb gynnau prif olau'r ystafell.

Bu Rhwydwaith Menter Ewrop yng Nghymru'n helpu'r Cyfarwyddwr Rheoli, Lyndon Owen, i fynd i'r afael â deddfwriaeth yr UE, i gael help gyda hawliau eiddo deallusol ac i nodi partneriaid byd-eang newydd. O fewn wythnosau, cafodd E2L Ltd ei gyflwyno i gwmnïau rhyngwladol a fyddai'n gallu dosbarthu cynhyrchion golau arloesol E2L.

Meddai Lyndon Owen, "Doeddwn i ddim wedi dod ar draws Rhwydwaith Menter Ewrop o'r blaen ond doedd dim byd yn ormod o drafferth iddyn nhw. Dwi ddim yn gallu meddwl pam na fyddai cwmnïau eraill yn defnyddio eu gwasanaethau sy'n rhad ac am ddim. Dwi wedi cael profiad o'r radd flaenaf ac mae wedi ychwanegu gwerth go iawn at fy musnes yn barod."

  • Mae Prifysgol Abertawe bellach yn rhan o gonsortiwm Rhwydwaith Menter Ewrop ar draws y DU a arweinir gan Innovate UK. Y Brifysgol yw'r partner rhanbarthol arweiniol yng Nghymru o ran cydlynu cyflawni'r rhwydwaith ar y cyd ag Innovate UK ac yn aelod o Grŵp Rheoli'r DU ynghyd â'r 7 partner rhanbarthol arweiniol eraill a Thîm Uwch Reolwyr Rhwydwaith Menter Ewrop.
  • Mae'r Brifysgol yn croesawu BBaCh sy'n ystyried rhyngwladoli neu symud eu harloesi i'r lefel nesaf ac mae'n eu gwahodd i gysylltu ag Adran Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe drwy ffonio 01792 606705.
  • I gael mwy o wybodaeth am Rwydwaith Menter Ewrop, ewch i http://een.ec.europa.eu/ ac am fwy o wybodaeth ynghylch Innovate UK, ewch i: https://www.gov.uk/government/organisations/innovate-uk