GWELLA CYSYLLTIADAU ASEAN – Y DU: Meithrin cysylltiadau agosach rhwng Brunei Darussalam ac Abertawe mewn byd rhyngwladol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Traddodir Darlith Goffa James Callaghan 2015 ym mis Mehefin gan yr Anrhydeddus Pehin Dato Lim Jock Seng, sy’n Gymrawd Anrhydeddus (1990) ac yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, ac yn Ddirprwy Weinidog Materion Tramor a Masnach, Brunei Darussalam.


The Honourable Pehin Dato Lim Jock SengTeitl: ‘Enhancing ASEAN-UK Relations: Forging closer ties between Brunei Darussalam and Swansea in a globalised world’

Siaradwr:  Yr Anrhydeddus Pehin Dato Lim Jock Seng, sy’n Gymrawd Anrhydeddus (1990) ac yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ac yn Ddirprwy Weinidog Materion Tramor a Masnach, Brunei Darussalam.

Dyddiad: Dydd Llun 29ain Mehefin 2015

Amser: 5:00pm

Lleoliad: Theatr Taliesin, Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Am ddim ac mae croeso i bawb. 

Traddodir y ddarlith hon trwy gyfrwng y Saesneg. 


Crynodeb o’r digwyddiad: Ac yntau’n Brif Weinidog Prydain o 1976-1979, roedd James Callaghan (1912-2005) yn Llywydd Prifysgol Abertawe o 1986-1995.  Daeth yn Gymrawd Anrhydeddus y Brifysgol ym 1992.

Sefydlwyd Cyfres Darlithoedd James Callaghan ar ben-blwydd y Brifysgol yn 75 mlwydd oed ym 1995 ac i ddathlu llywyddiaeth y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd  Callaghan o Gaerdydd.

Ym mis Hydref 1996, dychwelodd yr Arglwydd Callaghan i Brifysgol Abertawe i agor yr adeilad ar y campws a enwyd er anrhydedd iddo. Mae’r adeilad yn adlewyrchu’n briodol oes waith yr Arglwydd Callaghan gan ei fod yn gartref i’r adrannau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol a Hanes (yn ogystal ag adrannau eraill).

Mae siaradwyr blaenorol yng Nghyfres Darlithoedd Coffa James Callaghan yn cynnwys y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Heseltine CH, PC; yr Athro yr Arglwydd Kenneth Morgan, cyfoed Llafur a hanesydd nodedig o Rydychen; George Abbey, Cyn Gyfarwyddwr Canolfan Ofod Johnson a’r dyn a gynorthwyodd i lunio rhaglen ofod America dros dri degawd; Cyn Archesgob Caergaint, y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Williams o Ystumllwynarth; Cyn Archesgob Caergaint, y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Carey o Clifton; ac yn fwyaf diweddar ym 2013, yr Athro David Eastwood, Is-ganghellor, Prifysgol Birmingham. 


Bywgraffiad y Siaradwr: Derbyniodd y Gwir Anrhydeddus Pehin Orang Kaya Pekerma Dewa Dato Seri Setia Lim Jock Seng ei radd Baglor mewn Gwyddoniaeth (BSc) mewn Cymdeithaseg/Anthropoleg Gymdeithasol o Brifysgol Abertawe a’i radd Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) mewn Anthropoleg Gymdeithasol o Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain.

Dechreuodd ei yrfa yn Amgueddfa Brunei fel Dirprwy Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr ac wedyn cafodd ei drosglwyddo i Weinyddiaeth Materion Tramor Brunei Darussalam fel Cyfarwyddwr Cyffredinol ASEAN-Brunei Darussalam ym mis Awst 1983.

Yna fe’i penodwyd yn Uchel Gomisiynydd Brunei Darussalam ar gyfer Seland Newydd  ym mis Chwefror 1986.

Ym mis Mai 1986, daeth yn Gyfarwyddwr Gwleidyddiaeth yn y Weinyddiaeth Materion Tramor, ac fe’i dyrchafwyd i’r swydd Ysgrifennydd Parhaol yn y Weinyddiaeth Materion Tramor yn yr un flwyddyn.

Fe’i benodwyd gan Ei Fawrhydi Sultan Haji Hassanal Bolkiah yn aelod o’r Cyfrin Gyngor ym 2003 ac yn aelod swyddogol o’r Cyngor Deddfwriaethol ym 2004.

Ar gyfer ei wasanaethau, rhoddwyd teitl Pehin Menteri a Dato Seri Setia iddo, yn ogystal â gwobrau clodwiw eraill gan Ei Fawrhydi. Fe’i benodwyd yn Ddirprwy Weinidog Materion Tramor a Masnach ym mis Mai 2005.