Golau 'gwyrdd' i brosiectau ymchwil ac arloesi bioburo BEACON+ gwerth £12 miliwn a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw (dydd Iau, 3 Rhagfyr), cyhoeddodd Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, y bydd ymchwilwyr o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn rhannu buddsoddiad newydd o £12 miliwn yn economi 'werdd' Cymru.

BEACON - prof1Gyda chymorth £8 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd, bydd y prosiect BEACON+ yn cynnwys gwyddonwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe yn gweithio gyda diwydiant i ddatblygu deunyddiau, tanwyddau a chemegolion adnewyddadwy.

Bydd yr ariannu yn galluogi i arbenigwyr bioburo ddatblygu ymchwil ac arloesedd cynhyrchion gyda 100 o gwmnïau bach a chanolig yng ngogledd Cymru, gorllewin Cymru a chymoedd de Cymru.

Ymwelodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe heddiw hefyd, i gwrdd â'r bobl sy'n ymwneud â phrosiect BEACON, gan gynnwys ymchwilwyr yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd, yr Athro Steven Kelly a'r Athro Diane Kelly, a gydarweiniodd rôl Abertawe, ac i weld sut bydd yr ariannu newydd yn helpu i adeiladu ar y cyflawniadau hyd yma am ei hun.

Bioburo yw proses wyddonol trawsffurfio planhigion i gynnyrch masnachol a chemegolion gwerthfawr, megis cosmetigau, tanwyddau, cynhyrchion fferyllol, tecstilau a chynhyrchion iechyd.

BEACON - prof2Nod y prosiect yw creu 100 o gynhyrchion neu brosesau newydd mewn partneriaeth â busnesau dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd y buddsoddiad heddiw yn caniatáu i'r prifysgolion sy'n rhan o'r prosiect adeiladu ar lwyddiant y prosiect BEACON cyntaf, a greodd cysylltiadau agosach rhwng y byd academaidd a diwydiant yng Nghymru ym maes technoleg carbon isel, ac enillodd wobr fawreddog RegioStars yr Undeb Ewropeaidd am ei gyfraniad at dwf cynaliadwy.

Meddai'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, “Mae'r buddsoddiad o £8 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd ym mhrosiect BEACON+ heddiw yn newyddion gwych a fydd yn caniatáu i fusnesau yng Nghymru elwa o ymchwil gwyddonol uwch i ddatblygu cynhyrchion newydd, i greu swyddi ac i dyfu economi carbon isel Cymru.”

Mae tîm ymchwil Abertawe yn canolbwyntio ar ddatblygu'i arbenigedd mewn defnyddio bacteria a ffyngau i dreulio, neu eplesu, planhigion yn y broses bioburo.

Meddai'r Athro Steven Kelly, “Mae Prifysgol Abertawe a changen ymchwil ei Hysgol Feddygaeth, y Sefydliad Gwyddor Bywyd, yn hapus iawn gyda chyhoeddiad y Gweinidog Jane Hutt ynghylch ariannu BEACON+ drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru Llywodraeth Cymru ac Ariannu Strwythurol Rhanbarthol Ewropeaidd.

BEACON - prof3“Mae hyn yn adeiladu ar record Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe o weithio gyda'i gilydd, a enillodd wobr Prosiect Gorau RegioStars 2014 am y prosiect gorau ym maes twf cynaliadwy yn yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y prosiect yn gweithio gyda diwydiant i archwilio cynhyrchion gwyrdd, a bydd Abertawe yn canolbwyntio ar ficrofioleg, eplesu a bioleg foleciwlaidd.”

Meddai Cyfarwyddwr BEACON ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr Athro Iain Donnison, “Ysgogir BEACON gan dargedau heriol ar gyfer mabwysiadu technolegau gwyrdd a gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a osodwyd gan lywodraethau cenedlaethol a'r Undeb Ewropeaidd.

“Gwelir technolegau carbon isel, gan gynnwys bioburo a biodechnoleg ddiwydiannol, fel sectorau twf pwysig, a bydd angen cadwyni cyflenwi cynaliadwy a fydd yn creu gweithgarwch economaidd a swyddi, a'r rhain fydd canolbwynt y gwaith a wneir yng Nghymru, ac i Gymru, yn BEACON.”

Meddai'r Athro Julie Williams, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru, “Mae rhaglenni'r Undeb Ewropeaidd yn chwarae rhan bwysig mewn cefnogi ymchwil ac arloesi ac yn helpu i dorri tir newydd mewn gwyddoniaeth yng Nghymru.

“Mae hwn yn brosiect ardderchog a fydd yn adeiladu ar yr ymchwil o safon fyd-eang a gynhelir eisoes ym mhrifysgolion Cymru ac yn creu buddion hirdymor economaidd ac amgylcheddol.”

Am ragor o wybodaeth am BEACON, cliciwch yma.