Darlithydd arobryn Prifysgol Abertawe yn cyhoeddi cyfrol newydd sy’n archwilio bywyd a chyfnodau cythryblus yr awdur a’r ymgyrchydd gwleidyddol Lily Tobias

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr Jasmine Donahaye, Uwch-ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, newydd gyhoeddi The Greatest Need, cofiant Lily Tobias, awdures Iddewig o Gymru a ysgrifennodd am fywyd a phrofiad Iddewig yn yr 20fed ganrif.

The Greatest Need Yn feirniad, bardd a golygydd, mae Dr Donahaye yn ysgrifennu ar gyfer sawl genre, gan gynnwys barddoniaeth a gwaith creadigol ffeithiol. I gyd-fynd â chyhoeddiad y bywgraffiad, mae nofel Lily Tobias, My Mother’s House, wedi’i ailgyhoeddi yn rhan o’r gyfres Honno Classics, gyda rhagair gan Dr Donahaye.

Cafodd y nofel a ysgrifennodd Tobias ym 1933 dan y teitl Eunice Fleet, sy'n ymwneud â gwrthwynebwyr cydwybodol, ei hailgyhoeddi gan Honno, gyda chyflwyniad gan Dr Donahaye, yn 2004.

Yn ferch i fewnfudwyr, magwyd Lily Tobias yn Ystalyfera, yn ardal Cwm Tawe. Roedd hi’n chwarae rhan frwd fel awdur ac ymgyrchydd yn y frwydr dros hawl menywod i bleidleisio, fel heddychwr yn cysgodi gwrthwynebwyr cydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, a thros hawl Cymry ac Iddewon i gael ymreolaeth. Ar ôl symud o Ysyalyfera, treuliodd gyfnodau yng Nghaerdydd a Llundain cyn symud i Hafia ym Mandad Palesteina Prydain yn y 1930au, lle fu’n byw tan ei marwolaeth yn 1984.

Ysgrifennodd Lily Tobias bedair nofel, casgliad o straeon byrion, a'r dramodiad cyntaf o Daniel Deronda yn ogystal â newyddiaduraeth helaeth. Roedd ei gwaith ffuglen wastad yn amserol ac yn tynnu ar ei chymysgedd unigryw ei hun o ddiwylliannau, gan ganolbwyntio ar ei heddychiaeth a rhyngwladoliaeth. Yn fodryb i’r bardd Dannie Abse, a’r AS Llafur Leo Abse, cafodd ei hystyried yn awdur o fri yn ystod ei chyfnod.

Dr Jasmine Donahaye Meddai Dr Donahaye: “Pan ganfyddais llyfrau allan o brint Lily Tobias gyntaf rhyw bymtheg mlynedd yn ôl, teimlais chwithdod iddi lithro o olwg y cyhoedd. Roedd cynnwys testunol ei gwaith ysgrifenedig yn rhyfeddol ac anghyffredin, a’i bywyd, fel y darganfyddais, wedi ei greithio gan drawma a thrasiedi, ond yr oedd hi'n fenyw drawiadol a dewr a ddangosodd ddycnwch yn wyneb amgylchiadau heriol. Nawr gyda chyhoeddi’r bywgraffiad hwn ynghyd ag ailgyhoeddi ei nofel gyntaf ddirdynnol ac unigryw, hyderaf y caiff gydnabyddiaeth briodol am ei llenyddiaeth hynod a’i chyfraniadau gwleidyddol fel awdures Gymreig ag Iddewig”.

Mae cyfrolau blaenorol Dr Donahaye yn cynnwys y monograff Whose people? Wales, Israel, Palestine (Gwasg Prifysgol Cymru), a dau gasgliad o gerddi, Self-Portrait as Ruth (Salt) and Misappropriations (Parthian). Cyhoeddir ei chofiant, Losing Israel, gan Seren ym mis Mehefin.

Y llynedd, enwyd Dr Donahaye yn un o 16 o artistiaid proffesiynol sydd wedi derbyn Dyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Dyfarnwyd £20,000 i Dr Donahaye am ‘Slaughter’, prosiect ysgrifennu arbrofol sy’n canolbwyntio ar ladd-dai a’u hamgylcheddau.


Llun gan Keith Morris Photography