Dangosiad cyntaf o ffilm cyn-fyfyriwr a darlithydd Prifysgol Abertawe yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd High Tide, ffilm hir cyntaf Jimmy Hay, cyn-fyfyriwr a darlithydd rhan-amser ym Mhrifysgol Abertawe, yn cael ei dangosiad cyntaf yng Nganolfan y Celfyddydau Taliesin ar nos Wener, 27 Chwefror.

Bydd y ffilm yn cael ei rhyddhau ar 6 Mawrth, gyda dangosiadau yn sinema Vue, Abertawe, The Reel ym Mhort Talbot, Canolfan y Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, a nifer o leoliadau eraill.

Jimmy HayWedi’i lleoli ar hyd arfordir Penrhyn Gŵyr, mae High Tide yn serennu Melanie Walters (Gavin and Stacey) a Samuel Davies (Pen Talar, Gwaith Cartref) fel mam a mab sydd ag un diwrnod i drwsio eu perthynas sydd wedi chwalu.

Drwy gymryd Josh, ei mab, allan o’r ysgol gall Bethan a Josh sgwrsio â’i gilydd yn yr awyr agored, heb unrhyw beth yn torri ar eu traws, a hynny  efallai am y tro cyntaf erioed. I gychwyn, mae Josh yn amharod i drafod, ond mae datgeliadau poenus yn ei orfodi i wynebu sefyllfa ei fam a'r realiti poenus o sut bydd bywydau’r ddau yn newid am byth.

Meddai Jimmy (chwith), sydd hefyd yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae astudio Astudiaethau’r Sgrîn ym Mhrifysgol Abertawe yn amlwg wedi bod yn allweddol o safbwynt fy mhenderfyniad i fod yn wneuthurwr ffilm. Roeddwn yn ddigon lwcus i gael swydd yn darlithio yn y brifysgol hefyd, felly mae Abertawe wedi bod wrth galon fy holl addysg ffilm.

“Doeddwn i methu deall pam nod oedd neb yn gwneud ffilmiau yn Abertawe na’r Gŵyr - maent yn llefydd mor brydferth sy’n edrych yn hynod o sinematig. Mae’n addas iawn bod dangosiad cyntaf y ffilm yn y Taliesin yn Abertawe, lle gwyliais i gymaint o ffilmiau tra oeddwn i’n fyfyriwr.”

Mae rhai o fyfyrwyr Jimmy ym Mhrifysgol Abertawe wedi penderfynu dilyn yn ôl ei droed. Mae Yaz Watson, myfyrwraig Astudiaethau Cyfryngau sydd ar ei thrydedd blwyddyn o astudiaeth, wedi gweithio fel aelod o’r criw ar High Tide. Ychwanegodd Jimmy: “Drwy weithio ar High Tide, mae Yaz wedi manteisio ar weithio ar nifer o gynyrchiadau ffilm eraill, felly mae hi’n enghraifft wych o fyfyriwr sydd wedi llwyddo.”

Cynhyrchir High Tide gan Long Am Films. Ffurfiodd Jimmy Long Arm Films gyda'i gyfaill James Gillingham yn 2009, ac maent wedi ysgrifennau a chyfarwyddo nifer o ffilmiau fer. High Tide yw eu ffilm hir cyntaf.

Gwyliwch rhaglun High Tide: