Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo’r Haf yn dathlu llwyddiant myfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Caiff cyflawniadau tua 3,000 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe eu dathlu'r wythnos nesaf yng Nghynulliadau Graddio a Gwobrwyo’r Haf Prifysgol Abertawe a gynhelir bob blwyddyn.

Graduation celebration shotCynhelir y 12 Cynulliad  o ddydd Llun, 20 Gorffennaf, tan ddydd Gwener, 24 Gorffennaf, yn Neuadd Brangwyn Dinas a Sir Abertawe lle bydd myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig o Gymru, y DU a gwledydd eraill yn derbyn eu dyfarniadau.

Yn ymuno yn y dathliadau bydd teuluoedd a ffrindiau'r myfyrwyr, swyddogion y Brifysgol, staff academaidd, cynrychiolwyr o Undeb y Myfyrwyr, swyddogion dinesig a phwysigion lleol.

Yn derbyn eu graddau a'u dyfarniadau ddydd Llun bydd darpar-raddedigion o Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, yr Ysgol Feddygaeth, yr Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) a'r Ganolfan Gwella Sgiliau Academaidd a Phroffesiynol; dydd Mawrth fydd tro'r Ysgol Reolaeth; dydd Mercher - Coleg y Gyfraith a Choleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd; dydd Iau - y Coleg Peirianneg; a dydd Gwener - y Coleg Gwyddoniaeth.‌

Meddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Ein Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo yw'r achlysur hapusaf yn y flwyddyn academaidd.  Hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau gorau i'n myfyrwyr sy'n graddio eleni a dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.

"Mae'r Cynulliadau hefyd yn rhoi cyfle i ni gydnabod y rôl bwysig sydd gan ffrindiau a theuluoedd ein myfyrwyr wrth eu cefnogi a'u hannog drwy gydol eu blynyddoedd o astudio - ac, yn bwysicaf oll, yn eu blwyddyn olaf o astudio, pan fydd eu hymdrechion a'u gwaith caled yn dwyn ffrwyth.

"Ac mae Abertawe wedi cael blwyddyn wych!

"Gall y graddedigion eleni ymfalchïo yn yr wybodaeth eu bod yn gadael Prifysgol sydd wedi gwella'n gyson yn nhablau cynghrair a systemau graddio'r DU a rhyngwladol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys The Times a The Sunday Times Good University Guide; Tablau Cynghrair Prifysgolion The Guardian; the Complete University Guide; a Phrifysgolion y Byd QS fesul pwnc a QS Stars, sy'n golygu bod Abertawe yng nghwmni prifysgolion gorau'r byd.

‌“Dangosodd canlyniadau'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) y bu lefelau boddhad ymysg myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn parhau i godi, gydag 89% o'r myfyrwyr yn ymateb eu bod yn fodlon ar eu cwrs yn gyffredinol yn Abertawe.

Graduation"Cadarnhaodd Adolygiad Sefydliadol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch ein bod wedi bodloni holl safonau academaidd a disgwyliadau o ran ansawdd y DU a chawsom ein canmol am wella cyfleoedd dysgu ein myfyrwyr.

"Ym mis Medi eleni, bydd Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd y Bae yn agor a bydd cyfnod newydd yn dechrau ar gyfer y Brifysgol - un a fydd yn cynnwys profiad rhyngwladol gwell o lawer i'n holl fyfyrwyr yn y dyfodol.

"Mae gennym hanes balch o baratoi myfyrwyr ar gyfer llwyddiant personol a phroffesiynol eithriadol ers 1920. Gobeithio y bydd y graddedigion eleni'n gallu parhau i ymfalchïo ym Mhrifysgol Abertawe wrth i ni adeiladu ar lwyddiant aruthrol y blynyddoedd diwethaf."

Ewch i http://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/graddio/