Cymdeithas Ffiseg America'n anrhydeddu ffisegwr o Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Athro Niels Madsen sy'n ffisegwr o Brifysgol Abertawe wedi'i ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ffiseg America (APS) – sef y sefydliad mwyaf i ffisegwyr yn y byd – mewn cydnabyddiaeth o'i gyfraniadau rhagorol i ffiseg gwrth-hydrogen.

Prof Niels MadsenBydd y dyfyniad a fydd yn ymddangos ar Dystysgrif Cymrodoriaeth yr Athro Madsen yn darllen fel a ganlyn: "Am gyfraniad arloesol i faes gwrth-hydrogen ac arweinyddiaeth wrth ddatblygu technegau a alluogodd y broses o ddal gwrth-hydrogen a’r sbectrosgopeg ficrodon gyntaf ar gyfer gwrth-hydrogen."

Meddai'r Athro Madsen, sy'n gweithio yng Ngholeg Gwyddoniaeth y Brifysgol: "Roeddwn i wrth fy modd pan ddysgais fy mod wedi cael fy argymell ar gyfer Cymrodoriaeth y Gymdeithas gan yr Is-adran Ffiseg Plasma, yng nghyfarfod Cynrychiolwyr Cyngor APS ym mis Medi.

"Dim ond hanner un y cant o aelodau APS all gael eu hethol i dderbyn Cymrodoriaeth ac mae'n gydnabyddiaeth gan eich cymheiriaid o'ch cyfraniadau i ffiseg, ac felly rwyf yn hynod falch o dderbyn yr anrhydedd ryngwladol hon."

Meddai'r Athro Matt Jones, Pennaeth y Coleg Gwyddoniaeth: "Rwyf wrth fy modd bod cyflawniadau sylweddol yr Athro Madsen wedi'u cydnabod yn y ffordd hon. Mae'r Coleg Gwyddoniaeth wedi dechrau ar siwrne i ddod y lle mwyaf creadigol i wneud gwyddoniaeth yn fyd-eang. Mae gwaith yr Athro Madsen a llawer eraill ar draws y Coleg yn cysylltu â gwaith sy'n arwain yn fyd-eang ac yn cyfrannu at y gwaith hwnnw ac mae hyn yn rhan allweddol o'r trawsnewidiad hwn."

Mae'r Athro Madsen, a ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2005, yn wyddonydd arbrofol sy'n arbenigo mewn gwaith ar ffiseg sylfaenol gyda gwrthfater.    

Fe yw cyd-sylfaenydd ac arweinydd grŵp cydweithrediad  ALPHA yn CERN, Sefydliad Ymchwil Niwclear Ewrop. ALPHA oedd y grŵp cyntaf i ddal gwrth-hydrogen a gweld y trawsnewidiadau cwantwm ynddo.

Bu'n chwarae rhan weithredol mewn ymchwil gwrth-hydrogen ers 2001, gan chwarae rôl sylweddol yn nhîm ATHENA yn CERN a oedd y cyntaf i ffurfio gwrth-hydrogen ynni isel yn 2002. Arweiniodd ei grŵp ymchwil yn CERN yr ymgyrch i weithredu sawl techneg allweddol a arweiniodd at ddal gwrth-hydrogen am y tro cyntaf a gwnaeth ddylunio ac adeiladu rhannau sylweddol o gyfarpar ALPHA. Ar gyfer y gwaith hwn, dyfarnwyd Uwch-gymrodoriaeth Leverhulme y Gymdeithas Frenhinol i'r Athro Madsen yn 2010, a gwobr James Dawson 2011 ar gyfer Rhagoriaeth mewn Ymchwil Ffiseg Plasma.

Mae Prosiect ALPHA wrthi’n dal atomau gwrth-hydrogen a'r nod yw cynnal cymariaethau manwl gyda hydrogen. Yn ôl damcaniaethau sylfaenol, dylai symiau cyfartal o wrth-fater a mater ffurfio’r bydysawd. Fodd bynnag, ymddengys ei fod yn cynnwys mater yn unig. Un esboniad ar gyfer yr anghysondeb hwn allai fod gwahaniaeth bach (ac annisgwyl) rhwng mater a gwrthfater.

Mae Abertawe'n arweinydd byd-eang mewn ffiseg bositronau a gwrth-hydrogen. Mae'r Athro Madsen yn arwain prosiect i ddefnyddio laserau i leihau tymheredd gwrth-hydrogen i annog gwelliant mawr yn nifer yr atomau gwrth-hydrogen a gaiff eu dal - cam allweddol tuag at gymaryddion manwl.

Am ragor o wybodaeth am yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe ewch i http://www.swansea.ac.uk/physics/