Cyllid elusennol wedi’i ddyfarnu ar gyfer ymchwil arloesol newydd ar ddementia

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwraig PhD o’r Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn cyllid gan yr elusen ymchwil dementia BRACE i ddilyn astudiaeth arloesol newydd ar ddementia fasgwlaidd.

Emma RichardsBydd Emma Richards yn ymgymryd â’r astudiaeth dan oruchwyliaeth yr Athro Andrea Tales. Bydd yr astudiaeth yn caniatáu i Emma barhau â’i gwaith helaeth ar ofal ac ymchwil dementia. Dechreuodd ei gyrfa fel ffisiotherapydd cynorthwyol mewn cyfleuster gofal dementia arbenigol a chanolbwynt ei thraethawd hir israddedig oedd triniaethau seicolegol a straen gofalwyr o fewn clefyd Alzheimer. Ar ôl cwblhau ei gradd, aeth ymlaen i weithio mewn nifer o rolau ymchwil o fewn y GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Hefyd mae gan Emma brofiad personol o effaith dementia.  Meddai: “Pan oeddwn i’n 16 mlwydd oed des i’n ofalwr ar gyfer fy mam-gu a oedd yn dioddef o ddementia. Cafodd ei diagnosis effaith ofnadwy arnaf; fodd bynnag, rhoddodd hyn fewnwelediad gwerthfawr i mi, a phrofiad personol uniongyrchol o effeithiau’r clefyd, ac o ganlyniad penderfynais y byddwn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chanddynt ddementia a’u gofalwyr.”

Meddai’r Athro Tales: “Achos cyffredin o amhariad gwybyddol a dementia yw clefyd fasgwlaidd ond mae wedi’i dan-ymchwilio  ac ni wyddys llawer amdano o’i gymharu â chlefyd Alzheimer.  Rydym yn disgwyl i ganlyniad yr astudiaeth ymchwil hon gynyddu ein dealltwriaeth o amhariad gwybyddol ysgafn sy’n gysylltiedig â chlefyd fasgwlaidd a dementia fasgwlaidd ac y bydd yn cael dylanwad cadarnhaol ac uniongyrchol ar ddatblygu profion go iawn sy’n berthnasol yn glinigol ar gyfer profi swyddogaeth yr ymennydd, megis y rhai hynny a ddefnyddir ar gyfer diagnosis cynnar ac ar gyfer arwain rheolaeth.”

Meddai Mark Poarch, Prif Swyddog Gweithredol BRACE: “Rwyf yn sicr y bydd astudiaeth Emma’n elfen hanfodol yn y frwydr fyd-eang ehangach yn erbyn dementia. Rydym yn dymuno’r gorau iddi gyda’i hymchwil.”