Cyllid Cymru-gyfan wedi’i roi i Ganolfan PRIME Cymru ar gyfer ymchwil gofal sylfaenol a brys

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â’i phrifysgolion partner Bangor, Abertawe a De Cymru, wedi derbyn £2.7M i arwain ‘Canolfan PRIME Cymru’ ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Brys.

Bydd y cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cefnogi nod y Ganolfan i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru a thu hwnt, drwy ymgymryd ag ymchwil ansawdd uchel ar bynciau’n ymwneud â blaenoriaethau polisïau cenedlaethol mewn gofal sylfaenol, gofal brys a gofal heb ei drefnu.

Bydd y ganolfan ymchwil yn gwneud Cymru’n arweinydd byd-eang mewn gofal sylfaenol a brys drwy greu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisïau, ymyriadau a gwelliannau i wasanaethau, a thrwy roi canfyddiadau ar waith ar draws y disgyblaethau perthnasol amrywiol gan gynnwys ymarfer meddygol, nyrsio cymunedol, deintyddiaeth, fferylliaeth, therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a gofal cymdeithasol, brys, cyn-ysbyty a heb ei drefnu.

Mae ymchwil yn y maes hwn yn hanfodol gan fod 90% o gysylltiadau pobl â’r GIG yn digwydd yn y gymuned yn lle yn yr ysbyty. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, mae’r nifer o bobl a chanddynt broblemau iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth ar gynnydd. Mae gofal sylfaenol, brys a heb ei drefnu sy’n gadarn yn hanfodol ar gyfer gwasanaeth iechyd effeithiol ac effeithlon.

Mae llawer o’r gwaith o reoli cyflyrau hirdymor megis diabetes, asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, epilepsi a chlefyd y galon wedi symud o ysbytai i ofal sylfaenol. Yn yr un modd, mae mwy a mwy o adsefydlu cleifion a hyrwyddo hunanreolaeth yn digwydd yn y gymuned. Mae defnydd priodol ac ymatebion a ddarperir gan wasanaethau gofal heb ei drefnu a gwasanaethau gofal brys yn hanfodol er mwyn darparu gofal brys amserol ac o ansawdd uchel, ac mae hyn hefyd yn wir am wasanaethau gofal sylfaenol, eilaidd a chymdeithasol.

Mae ymchwil o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn llywio gofal cleifion, ail-ddylunio gwasanaethau ac adnabod cyfleoedd sy’n arbed arian i’r GIG.  Bydd y Ganolfan yn adeiladu ar feysydd rhagoriaeth wyddonol yng Nghymru gyda themâu craidd wedi’u canolbwyntio ar gyflyrau hirdymor, gofal iechyd darbodus sydd â chanolbwynt ar gleifion, heintiau ac ymwrthedd i wrthfiotigau, gofal brys a heb ei drefnu (gan gynnwys gofal cyn-ysbyty), diogelwch cleifion a gwella gofal iechyd, yn ogystal ag atal, sgrinio a diagnosis cynnar.

Meddai’r Athro Adrian Edwards o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, a fydd yn arwain y Ganolfan: “Mae hwn yn gyfle gwych i wneud yr ymchwil hon ar y cyd â chleifion ac ar eu cyfer nhw a’r cyhoedd. Mae galw mawr am yr ymchwil hon yn y meysydd hollbwysig hyn o’r GIG.

“Ar adeg pan fo’r GIG yn wynebu heriau mawr, a phoblogaeth sy’n heneiddio ac sydd ag anghenion gofal ac iechyd sy’n fwyfwy cymhleth, mae gwasanaethau gofal sylfaenol a brys sy’n effeithiol ac o ansawdd da ac sydd â chanolbwynt ar y cleifion yn hollol hanfodol ar gyfer y GIG ar y cyfan er mwyn darparu’r gofal iechyd y mae cleifion yn dymuno ei dderbyn ac y mae ei angen arnynt.”

Meddai’r Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rwyf wrth fy modd bod Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bellach yn ganolfan rhagoriaeth mewn gofal sylfaenol a brys.

“Mae cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Canolfan PRIME yn dangos ein hymrwymiad tuag at ariannu ymchwil sy’n gallu cael gwir effaith ar wella iechyd, lles a ffyniant pobl yng Nghymru.”

Professor Helen SnooksMeddai’r Athro Helen Snooks o Ysgol Feddygol  Prifysgol Abertawe: “Mae’n bleser gennym fod â’r cyfle i weithio ymhellach gyda chydweithwyr yn y GIG sy’n darparu gofal brys a heb ei drefnu – yn benodol yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, meddygfeydd ac ymddiriedolaethau acíwt – a phartneriaid academaidd o ar draws Cymru, i adeiladu sylfaen gref o dystiolaeth ymchwil i lywio’r broses o ddatblygu polisïau ac ymarfer mewn gofal sylfaenol a brys yng Nghymru a thu hwnt.

“Trwy ddod â chyllid ymchwil i Gymru a darparu ymchwil berthnasol a thrwyadl, byddwn yn sicrhau y bydd y cyhoedd a’r cleifion yng Nghymru’n derbyn gofal y profwyd ei fod yn ddiogel, yn effeithiol ac yn effeithlon.”

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (a adwaenid gynt fel y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd) yn sefydliad rhithwir cenedlaethol ac amlochrog a ariennir ac a oruchwylir gan Is-adran Llywodraeth Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.primecentre.wales