Cyfle prin i weld nodiadur ‘coll’ Dylan Thomas wrth iddo ddychwelyd i Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae nodiadur coll Dylan Thomas, a darganfuwyd ar ôl iddo gael ei anghofio mewn drâr am ddegawdau, yn mynd i gael ei arddangos i tua 200 o aelodau o’r cyhoedd yn Abertawe mewn digwyddiad arbennig ar ddydd Iau, 14 Mai i nodi’r Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas cyntaf.

Dylan Thomas notebookLlwyddodd y Brifysgol i brynu'r llyfr (chwith) am £85,000 mewn arwerthiant yn Sotheby's ar ôl bod mewn drâr mewn angof am ddegawdau cyn iddo ddod i law yn ddiweddar. Mae'n un o bum llyfr nodiadau y defnyddiodd Dylan Thomas – mae'r pedwar arall ym Mhrifysgol Talaith Efrog Newydd yn Buffalo. Disgrifiodd yr Athro John Goodby, arbenigwr rhyngwladol ar Dylan Thomas a golygydd rhifyn canmlwyddiant ei gerddi, y darganfyddiad fel "y Greal Sanctaidd i ysgolheigion Thomas", a'r mwyaf cyffrous er marwolaeth y bardd ym 1953.

‌Mae’r digwyddiad ar 14 Mai yn gyfle prin i weld yr arteffact godidog hwn. Yn ystod yr arddangosfa, bydd cyfle hefyd i bobl weld lluniau gwreiddiol o Dylan Thomas a sawl copi prin o’i waith, sydd ar fenthyg drwy garedigrwydd Dylan’s Bookstore.

Bydd y nodiadur yn cael ei arddangos mewn cas wydr drwy gydol Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, gyda holl gynnwys y llyfr yn cael ei ddangos ar sgriniau plasma.

  • Mae’r arddangosfa ar agor rhwng 11am a 4.30pm ar ddydd Iau, 14 Mai.
  • Mynediad yn ôl amser, fesul slotiau hanner awr, gyda mwyafswm o 20 lle ar gael ar gyfer pob slot.
  • Mae’r arddangosfa am ddim ac yn agored i bawb, ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.

Mae hanfodol eich bod yn archebu’ch lle ymlaen llaw.

Dylan Thomas Meddai'r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Fel y brifysgol yn nhref enedigol y bardd a noddwr Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, mae'n briodol ein bod wedi gallu sicrhau bod y llyfr nodiadau hwn yn aros yng Nghymru a'i fod ar gael i ysgolheigion. Bydd y llyfr nodiadau yn ychwanegiad hyfryd i'n casgliad archif helaeth a phwysig."

Caiff y llyfr nodiadau ei gadw yn Archifau Richard Burton y Brifysgol, y mae eisoes yn gartref i ddyddiaduron a phapurau eraill Burton y'u rhoddwyd i'r Brifysgol gan ei wraig weddw, Sally, ac eitemau pwysig eraill, gan gynnwys papurau'r academydd a'r awdur, Raymond Williams, a Chasgliad Meysydd Glo De Cymru. Mae'r archifau'n agored i bawb drwy apwyntiad.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas yn dathlu bywyd a gwaith y bardd enwog Dylan Thomas, a gynhelir yn flynyddol ar 14 Mai. Dyma ddyddiad darllediad cyntaf y ddrama Under Milk Wood a berfformiwyd yn wreiddiol ar lwyfan 92Y The Poetry Center, Efrog Newydd yn 1953.