Cwymp llen iâ dramatig 135 mil o flynyddoedd yn ôl a sbardunodd amrywiad byd-eang cryf yn yr hinsawdd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr wedi datgelu’r gyfres o ddigwyddiadau hinsoddol a roddodd derfyn ar yr oes iâ olaf ond un oddeutu 135 mil o flynyddoedd yn ôl.

Bergs

Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn rhifyn heddiw o Nature, yn ein helpu i ddeall yn well y prosesau sy’n rheoli newidiadau hinsoddol dramatig y Ddaear ar ddiwedd oes iâ, ac maent yn dangos, yn rhyfeddol, fod y gyfres o ddigwyddiadau ar ddiwedd yr oes iâ olaf ond un yn wahanol iawn i’r rhai ar ddiwedd yr un diwethaf.  

 

 

Dr Jennifer Stanford

Gwnaeth Dr Jennifer Stanford, darlithydd mewn Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Abertawe, gyfrannu at yr astudiaeth a arweiniwyd gan Dr Gianluca Marino o Brifysgol Genedlaethol Awstralia (ANU), ac a oedd yn cynnwys ymchwilwyr o ANU yn ogystal â Phrifysgolion Southampton ac Abertawe yn y DU.  

Meddai Dr Stanford: “Drwy archwilio’n ofalus archifau sy’n cofnodi newidiadau hinsoddol yn y gorffennol, gallwn ddehongli’r cydadwaith cymhleth rhwng y systemau sy’n rheoli tymereddau byd-eang.”

 

Core drilling

Meddai’r prif awdur, Dr. Gianluca Marino, o ANU: “Yn ystod y filiwn o flynyddoedd diwethaf, bu hinsawdd y Ddaear yn amrywio dro ar ôl tro rhwng oesau iâ a chyfnodau rhyngrewlifol.  Caiff diwedd oes iâ (terfyniad rhewlifol) ei nodweddu gan ail-drefnu’r llenni iâ cyfandirol, y cefnfor a’r atmosffer ar raddfa gyflym. Hyd yn hyn, dim ond ar gyfer diwedd yr oes iâ ddiwethaf, hynny yw, oddeutu 20 i 10 mil o flynyddoedd yn ôl, y bu modd cyfyngu’n union gronoleg y digwyddiadau gwahanol hyn. Ond roedd cwestiynau mawr o hyd o ran a oedd hyn yn wir am bob terfyniad, neu’r un olaf yn unig. Felly gwnaethom ganolbwyntio ar ddiwedd yr oes iâ olaf ond un (oddeutu 140-130 mil o flynyddoedd yn ôl). Gwnaethom ddefnyddio cofnodion ogof â dyddiadau manwl gywir a gwaddodion morol o ardal Môr y Canoldir i lunio mewn manylder y gyfres o newidiadau drwy amser yn yr holl baramedrau hinsoddol allweddol.”

 

Ychwanega’r cydawdur yr Athro Eelco Rohling, o ANU a Phrifysgol Southampton: “Gwnaethom ganfod fod cwymp dramatig yn llenni iâ Hemisffer y Gogledd i mewn i Ogledd Môr yr Iwerydd wedi atal cylchrediad y cefnfor ac wedi cael effeithiau byd-eang ar yr hinsawdd. Roedd Gogledd Môr yr Iwerydd yn oeri wrth i Gefnfor y De gynhesu. Yn dilyn hyn daeth iâ tir yn yr Iwerydd yn ansefydlog ac wrth i’r iâ barhau i doddi, cododd lefel y môr sawl metr yn uwch yn y pen draw.”

Casgliad y tîm yw: “Er syndod i ni, mae’r gyfres o ddigwyddiadau hinsoddol 135 o flynyddoedd yn ôl yn edrych yn wahanol iawn i ddiwedd yr oes iâ ddiwethaf, 20 mil o flynyddoedd yn ôl. Felly, er bod cylchoedd oesoedd iâ yn edrych yn debyg i’w gilydd ar yr arwyneb, wrth edrych mewn mwy o fanylder gwelir bod gwahaniaethau o bwys yn y berthynas rhwng toddi llenni iâ cyfandirol a newidiadau hinsoddol byd-eang.”

Llun 1: 'Bergs'. Trwy garedigrwydd (clod i’r) Athro Adrian Luckman, Prifysgol Abertawe.

Llun 2: ‘Dr Jennifer Stanford, darlithydd mewn Daearyddiaeth Ffisegol, Prifysgol Abertawe’.  Trwy garedigrwydd (clod i) Brifysgol Abertawe.

Llun 3: ‘Core drilling onboard Joides Resolution’. Trwy garedigrwydd (clod i) Markus Fingerle.