Canolfan Celfyddydau’r Brifysgol yn derbyn cydnabyddiaeth trwy enwebiad gwobr opera dwbl

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae staff Canolfan Celfyddydau Taliesin Prifysgol Cymru yn dathlu llwyddiant Under Milk Wood: an opera y llynedd trwy dderbyn enwebiadau gan ddau ddigwyddiad gwobrwyo urddasol.

Enwebwyd yr opera newydd, a gomisiynwyd gan y ganolfan i goffau canmlwyddiant Dylan Thomas, ar gyfer gwobr Premiere y Byd y Gwobrau Opera Cenedlaethol ac ar gyfer gwobr Cynhyrchiad Opera Gorau a gwobr Dyluniad/Gwisg Orau ar gyfer Gwobrau Theatr Cymru.

Under Milk Wood opera

Datblygwyd a chynhyrchwyd y darn gan gyfansoddwr a anwyd yn Abertawe, John Metcalf, gan ganolfan Taliesin, mewn partneriaeth â Companion Star Efrog Newydd a Le Chien Qui Chante Montreal gyda chefnogaeth Opera Genedlaethol Cymru. Roedd y gwaith yn cynnwys cast rhyngwladol a derbyniodd y perfformiad cyntaf yng nghanolfan y celfyddydau a leolir ar gampws y Brifysgol adolygiadau ardderchog ym mis Ebrill y llynedd cyn teithio o amgylch Cymru, a rhyddhawyd CD ohoni gan Tŷ Cerdd Records a leolir yng Nghaerdydd.

 

Meddai’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Diwylliannol, Sybil Crouch:

“Mae Under Milk Wood: an opera wedi bod yn llafur cariad i bawb sydd wedi bod yn rhan ohono, nid yn unig y cast a’r tîm creadigol ond, hefyd, ar gyfer y tîm yma yn Nhaliesin a weithiai ar bopeth o godi arian a chastio i farchnata a chreu’r set. Treuliwyd chwe blynedd yn dod â’r prosiect i’r llwyfan felly mae derbyn enwebiadau mewn categorïau sydd yn ein gosod yn erbyn cwmnïau fel English National Opera a Houston Grand Opera yn wefreiddiol”.

Bydd y recordiad clywedol yn cael ei ryddhau yn yr Unol Daleithiau ar Ddydd Gŵyl Dewi wedi’i gefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Cyhoeddir enillwyr y Gwobrau Opera Cenedlaethol yn ystod gala wobrwyo yn Theatr Savoy, Llundain ar 26 Ebrill. Cyflwynir Gwobrau Theatr Cymru yn Sherman Cymru, Caerdydd ar 31 Ionawr.