Anrhydedd gan un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Canada i Athro o Abertawe am ei ymchwil ym maes imiwnoleg atgenhedlol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yr Athro Martin Sheldon, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yw derbynnydd Medal Schofield eleni a ddyfarnwyd gan Goleg Milfeddygaeth Ontario Prifysgol Guelph, sef ysgol filfeddygaeth hynaf Canada.

Prof Martin Sheldon Schofield Medal 1Dyfarnwyd y Fedal i'r Athro Sheldon, sy'n arbenigo ym maes imiwnoleg atgenhedlol, ar ôl iddo draddodi Darlith Goffa Schofield 2015 yn yr Ysgol Filfeddygaeth yr wythnos diwethaf ar y thema: “A Trail in Discovery from Animal Disease and Infertility to Innate Immunity”.

[Gellir gwylio darlith yr Athro Sheldon yma https://www.youtube.com/watch?v=iqQ79BB1jhU drwy garedigrwydd Coleg Milfeddygaeth Ontario Prifysgol Guelph.]

Mae derbynwyr blaenorol y wobr flynyddol wedi cynnwys enillydd y Wobr Nobel (1991), Dr Peter Doherty, a llawer o wyddonwyr o fri sy'n gweithio ym maes heintio ac imiwnedd.

Bu'r Athro Martin Sheldon yn gweithio am 14 o flynyddoedd fel milfeddyg anifeiliaid cynhyrchu bwyd cyn symud i'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, Llundain, lle bu'n cymryd rhan mewn addysgu clinigol ac yn datblygu ei ddiddordebau ymchwil ym mecanweithiau moleciwlaidd heintio ac imiwnedd.

Ar ôl cwblhau ei PhD yn 2002, drwy gyfuniad o astudiaethau clinigol ac yn y labordy, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Datblygu Ymchwil y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol i'r Athro Sheldon yn 2006.  Symudodd i ymchwil amser llawn a bu'n astudio cwestiynau sylfaenol am fioleg heintio ac imiwnedd.

Prof Martin Sheldon Schofield Medal 2Yn 2008, sefydlodd labordy yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe er mwyn canolbwyntio ar imiwnoleg atgenhedlol ac astudio microbau ac imiwnedd yn y llwybr cenhedlol benywaidd.

Mae mecanweithiau sylfaenol rhyngweithio rhwng yr organedd lletyol a phathogenau yn debyg iawn mewn anifeiliaid a phobl, a nod ymchwil yr Athro Sheldon yw darganfod mecanweithiau heintiadau microbaidd, llid ac imiwnedd.

Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar wartheg godro lle mae clefyd crothol ar ôl esgor (rhoi genedigaeth) yn effeithio ar oddeutu 40 y cant o anifeiliaid bob blwyddyn, gan niweidio iechyd yr anifeiliaid ac achosi anffrwythlondeb.

Mae gwaith ymchwil ei labordy wedi arwain at strategaethau therapiwtig newydd, sy'n destun treialon clinigol ar hyn o bryd, i atal afiechyd crothol mewn gwartheg.

Cydnabuwyd ymchwil yr Athro Sheldon gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon drwy ddyfarnu Cymrodoriaeth iddo yn 2013.

Yn siarad ar ôl derbyn Medal Schofield, meddai'r Athro Sheldon, "Roedd yn bleser mawr ac yn anrhydedd derbyn y wobr hon am ymchwil sy'n cael effaith ymarferol, a mwynheais fy ymweliad  â Choleg Milfeddygaeth Ontario a Chanada yn fawr i draddodi  Darlith Goffa Schofield 2015."

Meddai Dr Gordon Kirby, Deon Cysylltiol Coleg Milfeddygaeth Ontario, "Mae Darlith Schofield yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn academaidd ac yn anrhydeddu un o wyddonwyr mwyaf blaenllaw Canada, Dr Francis Schofield."


Mae Darlith Goffa Schofield yn anrhydeddu Francis Schofield, arloeswr lliwgar a dylanwadol ym maes milfeddygaeth yng Nghanada.  Allfudodd Schofield o Loegr yn ei arddegau a dechreuodd astudio yng Ngholeg Milfeddygaeth Ontario ym 1907.  Yn fuan ar ôl iddo raddio, teithiodd i Gorea fel cenhadwr Canadaidd i addysgu bacterioleg.  Oherwydd ei weithgareddau wrth amddiffyn pobl Corea yn erbyn lluoedd meddiannol Japan, gadawodd Corea a dychwelodd i Goleg Milfeddygaeth Ontario ym 1921 lle bu'n gweithio am 33 o flynyddoedd.  Ar ôl ymddeol, dychwelodd i Gorea i weithio i'r Coleg Milfeddygaeth yn Seoul.  I gydnabod ei wasanaethau nodedig i annibyniaeth Corea, Dr Schofield oedd yr unig unigolyn nad oedd o dras Coreaidd i gael ei gladdu ym Mynwent Genedlaethol y Gwladgarwyr.

Gwnaeth Schofield nifer o gyfraniadau pwysig at  ymchwil milfeddygol yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif ond, heb amheuaeth, yr un pwysicaf oedd darganfod sylwedd gwrth-thrombws mewn meillion pydredig. Arsylwodd mai dim ond lloeau a oedd wedi bwyta meillion pydredig a ddioddefodd waedlif, a datgelodd hyn broblem gyda ffactorau ceulo gwaed.  Yn y pen draw, nodwyd y cyfansawdd dicoumarol a ddatblygwyd i greu'r cyffur gwrth-geulo, warfarin.

Nid oedd canfyddiadau Schofield yn ddamweiniol nac yn anecdotaidd; yn hytrach, roeddent yn seiliedig ar ymchwil gwyddonol gorfanwl. Bu ymagwedd systematig Schofield at wyddor milfeddygaeth a'i ymgyrch ar sail tystiolaeth i hyrwyddo arfer gorau mewn milfeddygaeth a gwella canlyniadau iechyd, yn rhagflaenu derbyniad yr ymagwedd hon sydd heddiw yn arfer safonol mewn meddygaeth ddynol a milfeddygaeth.

Mae Darlith Goffa Schofield yn dathlu bywyd Frank Schofield, ei ymchwil a'i rôl fel eicon sydd, heb amheuaeth, wedi cymell ac ysbrydoli llawer o gyflawniadau ymchwil dilynol yng Ngholeg Milfeddygaeth Ontario. Mae Dr Schofield yn ein hysbrydoli i gyflawni'r safonau uchaf o ymdrech, ysgolheictod a moeseg, er mwyn ymarfer meddygaeth ar sail tystiolaeth ac ymdrechu i droi ein canfyddiadau gwyddonol yn ddatblygiadau effeithiol yn iechyd anifeiliaid a phobl.