Abertawe'n croesawu cynrychiolwyr o Weinyddiaeth Gwladwriaeth Tsieina ar gyfer Materion Arbenigwyr Tramor

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Arddangosodd Prifysgol Abertawe ei hymchwil peirianneg, y gwyddorau bywyd a gwyddoniaeth yr wythnos hon (dydd Mawrth, 1 Rhagfyr) wrth i'r Brifysgol groesawu wyth cynrychiolydd o Weinyddiaeth y Wladwriaeth ar gyfer Materion Arbenigwyr Tramor (SAFEA) Tsieina.

SAFEA delegation - mainCroesawyd y cynrychiolwyr, a arweiniwyd gan Zhang Jianguo, Dirprwy Weinidog y Weinyddiaeth Adnoddau Dynol a Nawdd Cymdeithasol a Gweinyddwr SAFEA, i Gampws Parc Singleton a Champws y Bae gan Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Richard B. Davies.

Ymwelodd y gwesteion ag Ardal Beirianneg y Coleg Peirianneg ar y campws gwyddoniaeth ac arloesi newydd gwerth £450 miliwn, Campws y Bae, yn gyntaf; yna Adeilad Gwyddor Data newydd gwerth £8 miliwn yr Ysgol Feddygaeth, y Ganolfan NanoIechyd a Chanolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy (CSAR) y Coleg Gwyddoniaeth ar Gampws Parc Singleton.

SAFEA - ESRIMae cyfrifoldebau SAFEA yn cynnwys gweinyddu cydweithio a chyfnewid rhyngwladol perthnasol, a threfnu a chydlynu y cyfnewid ag arbenigwyr o Hong Kong, Macao a Taiwan; yn ogystal â rheoli cynlluniau hyfforddiant tramor blynyddol, archwilio a chymeradwyo rhaglenni hyfforddiant tramor a ariennir gan gronfeydd arbennig y wladwriaeth a rhaglenni hyfforddiant eraill, a chydlynu rhaglenni hyfforddiant tramor allweddol a'u rhoi ar waith.

SAFEA - Data ScienceMae SAFEA wedi dyfarnu statws achrediad i Brifysgol Abertawe i ddarparu rhaglenni hyfforddiant datblygu proffesiynol parhaus, a chroesawyd nifer o gynrychiolwyr i Abertawe dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys Llywyddion, Is-lywyddion ac uwch staff eraill rhai o brifysgolion blaenllaw Tsieina, gan gynnwys Prifysgol Jilin, Prifysgol Chongqing a Phrifysgol Nanjing.

‌Cynhaliwyd cinio a chyfarfod ffurfiol hefyd, lle gwahoddwyd Gary Davies, Cyfarwyddwr Materion Ewropeaidd ac Allanol Llywodraeth Cymru, i siarad ac i annerch cynrychiolwyr SAFEA ac uwch staff y Brifysgol.

Hwyluswyd ymweliad cynrychiolwyr SAFEA â Phrifysgol Abertawe gan Lysgenhadaeth Gweriniaeth Pobl Tsieina yn y Deyrnas Unedig a Dr Weixi Xing, Pennaeth Canolfan Dwyrain Asia Prifysgol Abertawe.

Wrth siarad am yr ymweliad, dywedodd yr Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Roedd yn bleser croesawu ein gwesteion o SAFEA i Brifysgol Abertawe ac i'n Coleg Peirianneg, Coleg Gwyddoniaeth ac Ysgol Feddygaeth, i gael cyfle i arddangos yr ymchwil ac addysgu o safon fyd-eang ac i drafod sut y gellir ehangu cydweithio llwyddiannus a'n partneriaid yn Tsieina.

"Mae cyflawniadau Abertawe fel prifysgol arloesol ac uchelgeisiol yn denu sylw yn rhyngwladol, yn enwedig agor ein campws gwyddoniaeth ac arloesi newydd, Campws y Bae, ym mis Medi, a nododd ddechrau cyfnod newydd i'r Brifysgol.

‌"Mae ein rhaglenni datblygu a chydweithio uchelgeisiol yn cynnig cynnydd mewn cyfleoedd rhyngwladol i fyfyrwyr ac yn ein helpu i ddatblygu graddfa a chyrhaeddiad ein hymchwil o safon fyd-eang mewn meysydd megis peirianneg, y gwyddorau bywyd a gwyddoniaeth.

"Cryfhaodd ymweliad SAFEA ein cysylltiadau â Tsieina a bydd yn cyflymu cydweithio mawr pellach â'n sefydliadau partner yn Tsieina."


Cysylltiadau presennol rhwng Prifysgol Abertawe a Tsieina:

  • Mae oddeutu 1,400 o fyfyrwyr o Tsieina wedi cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd.
  • Mae gan Brifysgol Abertawe swyddfa yn Beijing bellach.
  • Yn ddiweddar agorodd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ganolfan feddygaeth ar y cyd ag Ysbyty Undeb Wuhan; dyma un o ysbytai blaenllaw Tsieina, a sefydlwyd ym 1866 gan Griffith John, cenhadwr a anwyd yn Abertawe.
  • Ymwelodd myfyrwyr sy'n chwarae rygbi o Brifysgol Abertawe â Beijing yn haf 2015 ar gyfer Wythnos Chwaraeon Prifysgolion Tsieina-Deyrnas Unedig, gan chwarae mewn twrnamaint saith bob ochr â phrifysgolion Tsieina. Roedd yn rhan o Raglen Gyfnewid Pobl-i-Bobl lefel uchel rhwng Tsieina a'r Deyrnas Unedig. Aeth cynrychiolwyr Abertawe i dderbyniadau swyddogol yn Llysgenhadaeth Tsieina yn Llundain ac yn y Cyngor Prydeinig yn Beijing.
  • Yn ddiweddar mae ymwelwyr pwysig o Tsieina â Phrifysgol Abertawe wedi cynnwys cynrychiolwyr a arweiniwyd gan Ddirprwy Faer Beijing.
  • Ymwelodd tîm rygbi merched saith bob ochr cenedlaethol Tsieina ag Abertawe ym mis Mai 2015, gan chwarae rhai gemau a hyfforddi yn ein cyfleusterau chwaraeon.