Y Ganolfan Eifftaidd - Ysbrydion a Gemau: Gweithdy Calan Gaeaf Hanner Tymor

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dewch draw i’r Ganolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe yn ystod gwyliau Hanner Tymor mis Hydref i chi gael gweld beth oedd yn codi ofn ar yr hen Eifftiaid!

Gweithdy undydd yn ystod gwyliau hanner tymor

Dyddiadau: Dydd Mawrth 28 – dydd Gwener 31 Hydref 2014

Amser: 10am - 3pm

Yn addas ar gyfer plant 6-10 oed. 


Byddwch yn clywed stori ysbryd o’r hen Aifft a oedd yn cael ei hadrodd filoedd o flynyddoedd yn ôl, chware gêm hudolus o Senet a rhoi cynnig ar fymieiddio ein mymi ffug yn barod am y bywyd tragwyddol. 

Cewch hefyd greu llusern neidr i fynd adref gyda chi - roedd yr hen Eifftiaid yn defnyddio’r llusernau hyn i amddiffyn eu cartrefi rhag ysbrydion!

£15 am y diwrnod (10am – 3pm)

Nifer cyfyngedig o lefydd – rhaid archebu lle ymlaen llaw (dewch â chinio gyda chi)

E-bost: egyptcentre@swansea.ac.uk / 01792 295960.