Y chwilio am ‘Hyrwyddwyr’ ar fin gorffen!

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r chwilio am hyd at 1,000 o ‘Hyrwyddwyr’ gwirfoddol i gefnogi Pencampwriaethau Athletau Ewrop Abertawe y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn 2014 – y gystadleuaeth Baralympaidd fwyaf erioed i gael ei chynnal yng Nghymru – yn dod i ben ar 30 Mawrth. Os dymunwch fod yn rhan o'r digwyddiad, mae angen i ni dderbyn eich cais yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf.

IPC Volunteers launch Cewch ymgeisio arlein yn www.swansea2014.com tan ddiwedd dydd Sul 30 Mawrth, gan roi cyfle i bobl ledled y ddinas, y wlad a’r cyfandir fod yn rhan o’r digwyddiad chwaraeon hanesyddol yma, gan helpu Abertawe i lwyfannu’r Pencampwriaethau Ewropeaidd gorau hyd yma.

Bydd yr ‘Hyrwyddwyr’ yn cefnogi sêr ac arwyr Paralympaidd wrth iddynt geisio ychwanegu at eu medalau, ac yn cael cyfle unwaith mewn oes i fod yn rhan o amrywiaeth eang o weithgarwch yn y lleoliad athletau ac ym Mhentref y Pencampwriaethau.  Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol na sgiliau arbenigol ar gyfer nifer o’r swyddi.

Hyd yma, mae ymron i 500 o bobl wedi gwirfoddoli.  Mae ceisiadau wedi cyrraedd o mor bell i ffwrdd ag America a Nigeria, ac mae sefydliadau a busnesau lleol wedi addo hyd at 500 o wirfoddolwyr ychwanegol.

Dywedodd Jon Morgan, Cyfarwyddwr Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru: "Gydag ond ychydig ddyddiau i fynd cyn diwedd y cyfnod ymgeisio, mae nifer ac ansawdd y ceisiadau wedi bod yn rhyfeddol. Mae'n sicr y caiff y timoedd a fydd yn cyrraedd Abertawe ymhen 5 mis groeso cynnes iawn, a phrofiad neilltuol.

"Os oes gennych amser i sbario'r haf yma, byddem yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.  Nid ydym am i neb golli'r profiad unwaith mewn oes. Nid yw digwyddiad o safon fyd-eang yn digwydd ar stepen eich drws yn aml iawn, a heb os nac oni bai, gwirfoddoli yw'r ffordd orau o fod yn agos at y cyffro. Mae'r ystod eang o swyddi sydd ar gael yn golygu bod rhywbeth addas i bawb, a bod digon o gyfle i ddangos eich sgiliau presennol, ennill profiad gwerthfawr, a bod yn rhan o rywbeth arbennig iawn, iawn."

Dywedodd Paul Thorburn, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Abertawe 2014: “Mae lansio rhaglen yr Hyrwyddwyr yn garreg filltir bwysig iawn yn ein gwaith cynllunio ni ar gyfer Pencampwriaethau 2014.  Bydd y gwirfoddolwyr yn rhan allweddol o lwyddiant y digwyddiad ac yn helpu i estyn croeso cynnes Abertawe a Chymru i bawb, a chynnig profiad arbennig iawn iddynt.  Rydyn ni am weld pobl y ddinas a’r rhanbarth yn cael eu hysbrydoli gan y Pencampwriaethau a does dim gwell ffordd i hynny ddigwydd na thrwy weithredu fel ‘Hyrwyddwr’ a bod yn rhan o’r hanes."

Dywedodd Josie Pearson MBE, Pencampwr Paralympaidd a  Llysgennad Abertawe 2014: “Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld Pencampwriaethau Ewropeaidd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn cael eu cynnal yn Abertawe eleni. Rydw i’n eithriadol falch o fod yn llysgennad i’r digwyddiad. Mae cynnal pencampwriaethau mawr fel hyn yn fy ardal enedigol i ac yng Nghymru yn brofiad ffantastig i mi.

“Fel yn Llundain 2012, mae’r gwirfoddolwyr sydd eu hangen i wneud i ddigwyddiad fel hwn weithio yn hanfodol. Fe hoffwn i annog pobl i ystyried gwirfoddoli ar gyfer y gemau. Dydw i ddim yn gallu meddwl am unrhyw beth sy’n rhoi mwy o foddhad na helpu’r athletwyr sydd yn nhîm Prydain Fawr i gyrraedd eu nod a dod yn bencampwyr Ewrop."

Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan, rhaid iddynt fod ar gael am ddeg diwrnod yn ystod cyfnod y Pencampwriaethau a bydd arnynt angen eu cludiant a’u llety eu hunain.  Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi i’r holl ymgeiswyr llwyddiannus.

Cynhelir Abertawe 2014 ym Mhentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe rhwng y 18fed  a’r 23ain  Awst eleni a bydd tua 600 o athletwyr gorau’r byd yn cystadlu yno am yr anrhydedd wrth iddynt anelu at gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Rio yn 2016.

Cyflwynir y Pencampwriaethau gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Chwaraeon Anabledd Cymru, Athletau Prydain, Athletau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Llun: Paul Thorburn (Cadeirydd Abertawe2014 – yn y canol yn y cefn), Aled-Siôn Davies (Llysgennad Abertawe2014 , Athletwr – ar y chwith yn y cefn), Josie Pearson (Llysgennad Abertawe2014 , Athletwr – yn y canol yn y blaen), gyda'r Hyrwyddwyr cyntaf i wirfoddoli, gan gynnwys gwirfoddolwyr o'r rhaglen Llysgenhadon Ifainc ac Olympau Arbennig Prydain Fawr.