Y Brifysgol yn galaru dros un o awduron gorau Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae byd llenyddiaeth yn galaru dros un o awduron gorau Cymru, Nigel Jenkins, a fu farw yn oriau mân 28 Ionawr, yn 64 oed.

Yr Athro Cysylltiol Jenkins oedd Cyfarwyddwr Rhaglen Gradd Feistr Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe, y dysgodd er 2003.

Roedd yn fardd ac awdur creadigol a ffeithiol arobryn, yn ogystal â newyddiadurwr, golygydd a darlledwr.

Magwyd Nigel Jenkins ar fferm yng Ngŵyr a bu'n byw yn y Mwmbwls. Ysgrifennodd am ei gariad at yr ardal yn ei lyfrau 'Real Swansea' (Llyfrau Seren, 2008), 'Real Swansea 2', a 'Gower' (Gomer, 2009).

Nigel JenkinsMeddai'r Is-ganghellor, yr Athro Richard Davies, "Teimlwyd presenoldeb awdurdodol Nigel yn y Brifysgol ym mhell y tu hwnt i'w adran. Er enghraifft, ysgrifennodd gerdd ddathlu ar gyfer diwrnod graddio, a daeth yn rhan annatod o'n seremonïau graddio. Pan fyddai'n darllen y gerdd ei hun, roedd yn ddrama afaelgar."

Disgrifiodd y nofelwr, yr Athro Stevie Davies, cyd-sylfaenydd MA Ysgrifennu Creadigol Abertawe, Nigel Jenkins fel "athro ysbrydoledig, awdur eithriadol a gwir ffrind i awduron, beirdd, dramodwyr ac artistiaid o bob math ledled Cymru a'r tu hwnt.

"Roedd y staff a'r myfyrwyr, presennol ac yn y gorffennol, yn dwlu arno, a byddwn yn gweld ei eisiau'n fawr."

Nigel Jenkins oedd cyd-olygydd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008). Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru ym 1996 gyda'i lyfr teithio, 'Gwalia in Khasia'.

Mae ei weithiau barddoniaeth a rhyddiaith lu yn cynnwys:

Remember Tomorrow (Beekman, 1997)

Ambush (Gwasg Gomer, 1998)

Footsore on the Frontier - Selected Essays and Articles (Gwasg Gomer, 2001)

Through the Green Door: Travels among the Khasis (Penguin, 2001)

Blue (Planet, 2002)

Hotel Gwales (Gwasg Gomer, 2006)

O For a Gun (Planet, 2007)

Ym 1997, cyflwynodd raglen deledu BBC Wales, Kardomah Boys, am Dylan Thomas a'i gyd-artistiaid yn Abertawe.

Fel darlithydd a thiwtor gweithiodd i nifer o sefydliadau, gan gynnwys Coleg y Drindod, Caerfyrddin; Cymdeithas Addysgol y Gweithwyr; a Thŷ Newydd, Canolfan Awduron Genedlaethol Cymru yng Ngwynedd.

Bu farw Nigel Jenkins yn Nhŷ Olwen wedi salwch byr.

Bydd ysgrif goffa a manylion ei angladd i ddilyn.