Y Brifysgol ac ABMU yn cydweithio i arwain y ffordd mewn gwella gwasanaethau cyhyrysgerbydol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd menter unigryw ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) o fudd i gleifion y mae angen gwasanaethau cyhyrysgerbydol arnynt yn ardal y Bwrdd Iechyd.

Osteopathic centre opening 1Bydd y fenter; a lansiwyd yr wythnos hon (dydd Llun, 29 Medi) gan Gadeirydd y Bwrdd Iechyd, yr Athro Andrew Davies; yn galluogi i gleifion â chyflwr cyhyrysgerbydol gael mynediad amserol i asesu a thriniaeth a bydd yn lleihau'r amser cyfeirio ar gyfer triniaeth (RTT) ar gyfer triniaethau ac ymgynghoriadau mewn ysbyty.

Bydd y fenter hefyd yn darparu cyfleoedd addysgol i fyfyrwyr osteopatheg yn eu blwyddyn olaf o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol drwy roi cyfleoedd iddynt weithio mewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol ac mewn lleoliad integredig yn y GIG.

Bydd y clinig newydd, yng Nghanolfan Iechyd Beacon yn ardal SA1 Abertawe, yn gweithio am ddeuddydd yr wythnos, a bydd yn cynnwys ystafelloedd trin. Caiff y myfyrwyr eu goruchwylio gan ymarferwyr cofrestredig a chymwys o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol.

Rhagwelir y bydd y clinig, sy'n rhan o Wasanaeth Asesu Clinigol Cyhyrysgerbydol ABMU, yn gallu rheoli mwy na 400 o gleifion newydd yn ystod y cyfnod peilot, a fydd yn parau am flwyddyn.

Bydd y fenter yn cyfrannu at yr agenda Gofal Iechyd Darbodus y mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gefnogi ac at raglen moderneiddio ac arloesi helaeth Cyfarwyddiaeth Gyhyrysgerbydol ABMU, sy'n ceisio gwella mynediad cleifion; lleihau amserau aros (ar gyfer clinigau cleifion allanol a llawfeddygaeth); gwella llwybrau cleifion; a darparu'r gofal cywir yn y lle cywir, ar yr amser cywir gan y clinigwr cywir.

Osteopathic centre opening groupBydd y myfyrwyr sy'n cymryd rhan hefyd yn cael cyfle i gyflawni lleoliadau gwaith mewn ysbytai lleol er mwyn datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth orthopedig ymhellach. Bydd y fenter ar y cyd hefyd yn cynnwys ymchwil ac elfennau trawsddysgu, gyda'r nod o sicrhau canlyniadau gwell i gleifion.

Caiff y cynllun peilot ei werthuso er mwyn asesu a ellir integreiddio'r model amlddisgyblaethol o reoli gofal cleifion i Wasanaethau Cyhyrysgerbydol craidd ABMU yn y dyfodol.

Yn siarad yn lansiad y clinig, dywedodd Cadeirydd ABMU, yr Athro Andrew Davies, "Dyma enghraifft wych arall o sut y mae'r berthynas weithio fwyfwy agos rhwng Bwrdd Iechyd ABMU a Phrifysgol Abertawe'n datblygu gwasanaethau gwell, gyda thriniaethau a gwneud diagnosis yn well ac yn gyflymach.

"Mae'r gwasanaeth MCAS yn SA1 eisoes yn darparu gwasanaeth cyflymach a mwy hygyrch i bobl leol, a bydd y Clinig Osteopatheg newydd yn darparu ystod ychwanegol o driniaethau."

Meddai'r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Rwy'n hynod falch bod y cydweithio agos rhwng Prifysgol Abertawe ac ABMU yn darparu manteision clinigol go iawn i'r gymuned. Bydd y cyfle i'n myfyrwyr gyflawni lleoliadau gwaith mewn ysbytai lleol hefyd yn sicrhau'r ymarferwyr medrus sy'n canolbwyntio ar y claf y mae eu hangen i ddiwallu anghenion gweithlu GIG Cymru."

Osteopathic centre opening 2Ychwanegodd yr Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, "Mae cyflyrau cyhyrysgerbydol yn faich sylweddol ar y GIG, gydag adnoddau sylweddol yn cael eu sianelu i driniaethau ar gyfer pobl Cymru sy'n dioddef arthritis, poen cronig a chyflyrau cysylltiedig eraill – amcangyfrifir bod hanner miliwn o bobl yn dioddef.

"Bydd y cydweithio rhwng y Brifysgol a'r Bwrdd Iechyd yn gwella'r gwasanaeth a ddarperir i gleifion drwy gyflymu mynediad i asesu, diagnosis a thriniaeth briodol, a all gael effaith sylweddol ar lwybr eu cyflwr a sut y'i rheolir. Ar ben hynny, caiff y pwysau ar amserau aros ei leihau, a gellir targedu cleifion ar gyfer cleifion yn fwy manwl.

"Cyflawnir ymchwil ar yr un pryd i bennu effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd gwasanaeth o'r fath, er mwyn cyfeirio penderfyniadau ynghylch cyflwyno cynlluniau tebyg ar draws Cymru."

Am ragor o wybodaeth am raglenni Osteopatheg ym Mhrifysgol Abertawe, ewch i www.swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddoraudynolaciechyd.


Llun 1: (o'r chwith i'r dde) Yr Athro Andrew Davies - Cadeirydd ABMU, gyda'r Athro Ceri Phillips - Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd.

Llun 2: (o'r chwith i'r dde) Charlotte Eady (myfyriwr), Louise Prosser (myfyriwr), Emma Stevenson (myfyriwr), Devon Grey (myfyriwr),  Yr Athro Andrew Davies – Cadeirydd ABMU, Yr Athro Ceri Phillips - Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Mike Bond - Rheolwr Cyffredinol MSK.

Llun 3: (o'r chwith i'r dde) Mike Bond - Rheolwr Cyffredinol MSK, Yr Athro Andrew Davies - Cadeirydd ABMU, Andy Phillips - Cyfarwyddwr Therapïau a'r Gwyddorau Iechyd.