Trosglwyddo adeilad cyntaf Campws y Bae i'r Brifysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae adeilad cyntaf Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi'r Bae wedi'i gwblhau a'i drosglwyddo i Brifysgol Abertawe'r wythnos hon (1/12/14) gan yr arbenigwyr datblygu ac adfywio, St. Modwen.

ISM handover Rolls-Royce

 

 

 

  

 

 

 

 

 

 

Llongyfarchodd y Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Iwan Davies, St. Modwen a'i gontractwr, Vinci Construction UK, ar gwblhau Sefydliad Deunyddiau Strwythurol (ISM) y Coleg Peirianneg ar amser ac o fewn y gyllideb yn barod i'w agor fis Medi nesaf.

"Mae trosglwyddo'r Sefydliad Deunyddiau Strwythurol yn garreg filltir arwyddocaol am ei fod yn atgyfnerthu'r neges bod y Brifysgol yn 'barod am fusnes' ac yn llwyr ymroddedig i ddarparu ymchwil o safon fyd-eang gyda'i phartneriaid diwydiannol," meddai.

Bydd ISM yn gartref i gymysgedd o weithgareddau ymchwil a masnachol, gan ganiatáu i ddiwydiant ac academyddion greu a datblygu cynhyrchion a phrosesau gweithgynhyrchu.

Mae Rolls-Royce yn un o'r cwmnïau sy'n noddi'r ymchwil yn ISM ac ymwelodd dau gynrychiolydd o'r cwmni i weld datblygiad cyfleusterau'r adran Profi Deunyddiau ac Ymchwil Abertawe (SMaRT).

Mae Canolfan Technoleg Ddeunyddiau Rolls-Royce y Brifysgol, dan arweiniad Yr Athro Martin Bache, yn ymchwilio i systemau metelig strwythurol er mwyn eu defnyddio mewn uwch dyrbinau nwy. Hwn yw’r cam diweddaraf mewn partneriaeth dros ddeng mlynedd rhwng Rolls-Royce a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Peirianneg a Ffisegol (EPSRC).


Llun: Yn y llun yn yr adeilad ISM newydd, o'r chwith: Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe (Rhyngwladoli a Materion Allanol), yr Athro Iwan Davies; Yr Athro Martin Bache o'r Coleg Peirianneg, Cyfarwyddwr Canolfan Technoleg Ddeunyddiau Rolls-Royce y Brifysgol; Dr Mike Hicks, Cyfarwyddwr Ymddygiad Mecanyddol a Deunyddiau Rolls-Royce plc; Rupert Joseland, Cyfarwyddwr Rhanbarthol St. Modwen; Rob Savidge, Cyfarwyddwr Gwasanaethau a Systemau Peirianneg Rolls-Royce plc.