Tîm meddygaeth o Brifysgol Abertawe ar restr fer Gwobrau 2014 y BMJ

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tîm a arweinir yng Ngholeg Meddygaeth Phrifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau 2014 y BMJ.

Mae'r tîm, a arweinir gan yr Athro Stephen Allen, wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Papur Ymchwil y Flwyddyn. Cyfeirir at y gwobrau hyn fel "Oscars" y byd meddygaeth, ac maent yn cydnabod timoedd o'r Deyrnas Unedig sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ofal iechyd, yn y wlad hon ac yn rhyngwladol.

Roedd ymchwil y tîm wedi methu â darganfod unrhyw dystiolaeth bod probiotigau - y bacteria 'iach' fel y'u gelwir - yn lleihau'r perygl bod cleifion hŷn sy'n cael eu trin gydag antibiotigau yn dioddef o'r dolur rhydd yn yr ysbyty. Roedd astudiaethau blaenorol wedi codi gobeithion y byddai cymryd probiotigau'n atal y dolur rhydd, gan gynnwys y fath sy'n gysylltiedig â'r arch-fyg C. difficile. Ond daeth prawf clinigol, PLACIDE, ar ymron i 3,000 o gleifion mewn pum ysbyty, i'r casgliad na ddaw unrhyw fanteision i iechyd o gymryd probiotigau. Cyhoeddwyd y canlyniadau yn The Lancet.

Mae Stephen Allen yn Athro mewn Pediatreg ac Iechyd Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe ac mae wedi'i leoli yn Sefydliad Gwyddor Bywyd y Coleg Meddygaeth. Meddai, "Rydym wrth ein boddau fod yr ymchwil hwn wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau'r BMJ. Rydym yn credu mai PLACIDE yw'r prawf clinigol mwyaf erioed a wnaed ar brobiotigau. Roedd defnyddio probiotigau i drin y dolur rhydd yn dod yn arferol; dylai canfyddiadau ein profion wrthbwyso'r duedd hon, gan atal gwariant diangen."

Wrth sôn am yr ymchwil, meddai'r Athro Keith Lloyd, Deon a Phennaeth y Coleg Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe: "Llongyfarchiadau i'r Athro Allen a'i gydweithwyr ar gyrraedd y rhestr fer am y wobr fawreddog hon. Mae'r astudiaeth ansawdd uchel hon yn nodweddiadol o'r ymchwil wych sy'n cael ei chynnal yng Ngholeg Meddygaeth  Prifysgol Abertawe - astudiaethau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a lles dynol."

Eleni, mae'r BMJ wedi torri dros 400 o geisiadau i lawr i 59 ar gyfer y rownd derfynol, mewn 12 categori. Dywedodd Fiona Godlee, Prif Olygydd y BMJ: "Mae'r BMJ yn ymdrechu trwy'r amser i wella gofal iechyd; ar gyfer gwobrau 2014, rydym yn ceisio gwobrwyo'r arwyr anhysbys sydd wedi mynd â'u gwaith un cam ymhellach."

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni sydd i'w chynnal yng Ngwesty'r Park Plaza yn San Steffan, ddydd Iau 8 Mai 2014. 

I weld rhestr lawn o'r categorïau, y noddwyr, a'r dyfarnwyr, ewch i: http://thebmjawards.bmj.com/