Shabtis yn y Ganolfan Eifftaidd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Shabtis yn y Ganolfan Eifftaidd gan Meg Gunlach

Seminar Ymchwil y Ganolfan Eifftaidd.

Mawrth 2 Rhagfyr, rhwng 4pm a 6pm, ym Margam 318.

Croeso i bawb.

Mae’n debyg mai’r ffigurynnau angladdol bach a elwir yn shabtis yw arteffactau mwyaf eiconig yr Aifft Hynafol. Roedd miloedd o’r ffigurynnau hyn yn cael eu creu pan oeddynt ar eu hanterth, ac i archwilwyr cynnar yr Aifft roedd y rhain yn drysorau niferus a chludadwy. O ganlyniad, maen nhw’n rhan fawr o gasgliadau’r mwyafrif o amgueddfeydd. Bydd y seminar hwn yn rhoi trosolwg o’r shabtis sy’n rhan o gasgliad y Ganolfan Eifftaidd, casgliad sy’n cynnwys bron pob cyfnod a chynllun o saernïo shabti. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at bwyntiau diddorol eraill gan gynnwys dulliau adnabod a hanes y casgliad.