Seren S4C yn camu ar lwyfan y GwyddonLe ar gyfer yr agoriad swyddogol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar ddydd Llun, 26 Mai, diwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd, Meirionnydd, Rhys Bidder, yr actor a’r cyflwynydd o Abertawe estynnodd groeso i ymwelwyr y GwyddonLe yn ystod agoriad swyddogol y babell. Eleni yw’r bedwaredd flwyddyn i Brifysgol Abertawe noddi’r GwyddonLe.

Yn adnabyddus am ei rôl fel Max White ar Pobol y Cwm, bu Rhys yn cyd-gyflwyno’r rhaglen Gwylltio, cyfres i blant am fywyd gwyllt ar S4C yn ddiweddar.

‌Yn ystod yr agoriad swyddogol, soniodd Rhys, sy’n meddu ar radd Biocemeg, am ei brofiadau tra’n ffilmio’r gyfres Gwylltio, ac am ei hapusrwydd o weld cymaint o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn arbrofion yn y GwyddonLe.

Rhys Bidder GwyddonLe

Yn dilyn yr agoriad, cafodd Rhys flas ar rhai o’r gweithgareddau’r sydd ar gael yn y GwyddonLe, gan gynnwys: arbrofi gyda hylif nitrogen gyda thîm Deunyddiau Byw!, defnyddio argraffydd 3D,  a chyffwrdd ag anifeiliaid o’r pwll morol gyda Gethin Thomas o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe.

Yn dilyn yr agoriad swyddogol, meddai Rhys: “Roedd hi’n fraint ac yn anrhydedd agor y GwyddonLe eleni, ac roedd hi’n braf gweld cymaint o blant a phobl ifanc yn awyddus i ddysgu am wyddoniaeth.

“Mae’r GwyddonLe yn cynnig cyfleoedd arbennig i blant ddysgu am gymaint o wahanol bethau, ac fel rhywun sy’n ymddiddori yn y gwyddorau, rwy’n annog pawb i ymweld â’r GwyddonLe er mwyn manteisio ar yr hyn sydd ar gael yma”.

Mae pabell y GwyddonLe yn fwy nag erioed eleni, gyda chwmnïoedd megis Techniquest, Big Learning Company, S4C, Magnox a Technocamps ymhlith rhai o’r sefydliadau sydd yn arddangos eu gwaith ac yn cynnig arlwy flaengar i bawb fydd yn ymweld â’r babell.

Rhys Bidder Pwll Morol Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael i ymwelwyr y babell eleni, ceir cyfle i wisgo fel daearyddwr a cherdded y maes i brofi daearyddiaeth gyda gwibdaith GPS, creu ffilmiau ar gyfer YouTube, creu apiau, profi synhwyrau’r corff, cyffwrdd ag anifeiliaid yn y pwll morol, gweld triciau gyda hylif nitrogen a gweld argraffydd 3D wrth ei waith!

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: ‘‘Rydym yn hynod falch o fod ynghlwm â’r GwyddonLe unwaith eto eleni ac yn ddiolchgar i Rhys Bidder am arwain yr agoriad swyddogol.

“Mae’n amser cyffrous iawn i Brifysgol Abertawe wrth i adeiladau newydd Campws y Bae ddechrau ymddangos. Mae’r GwyddonLe yn gyfle gwych i ysbrydoli’r ymwelwyr i ymddiddori yn y gwyddorau a pharau â’u hastudiaethau yn y Brifysgol maes o law.

“Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i’r Brifwyl gan obeithio y bydd pawb yn cael cyfle i ymweld â’r babell i fwynhau’r wledd o weithgareddau fydd ar gael”.

Gyda thoreth o weithgareddau yn y GwyddonLe drwy gydol yr wythnos, mae’n addo cynnig profiad gwyddonol cyffrous trwy gyfrwng y Gymraeg i ymwelwyr, a cheir  rhywbeth at ddant pawb yno!

Mae’r GwyddonLe ar agor bob dydd rhwng 10yb tan 4yp, a cheir amserlen lawn o weithgareddau’r wythnos yma: http://www.swansea.ac.uk/media/Eisteddfod%20A3.pdf


Llun 1: Rhys Bidder yn ystod yr agoriad swyddogol y GwyddonLe

Llun 2: Rhys Bidder gyda chranc o'r pwll morol yn y GwyddonLe