Prosiect ASTUTE yn dangos ei gefnogaeth i weithgynhyrchu yng Nghymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Arddangoswyd cyflawniadau cydweithio rhwng y prosiect Uwch Dechnolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy (ASTUTE) a mentrau Cymreig yn yr ardal gydgyfeirio yn ddiweddar (dydd Mercher, 9 Gorffennaf) mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Julie James AC yn Adeilad Pierhead ym Mae Caerdydd.

Daeth llawer o bobl i'r digwyddiad, gyda mwy na 60 o gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, diwydiant a'r byd academaidd.

Wedi'i arwain gan Brifysgol Abertawe, ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae Prosiect ASTUTE yn cyfuno'r arloesedd, yr arbenigedd a'r cyfleusterau o'r radd flaenaf diweddaraf ym maes gweithgynhyrchu uwch o'r wyth Prifysgol yng Nghymru.

Er ei lansio yn 2010, mae'r prosiect pum mlynedd gwerth £27 miliwn, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru, eisoes wedi cefnogi mwy na 250 o fusnesau yng ngorllewin Cymru a'r cymoedd.

Edwina Hart, y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, oedd y siaradwr gwadd yn nigwyddiad arddangos y prosiect, wrth iddo ddechrau ei flwyddyn olaf.

ASTUTE showcase 2014Nododd Mrs Hart "rhwyddineb defnydd" y prosiect, sydd wedi galluogi diwydiant i ddefnyddio arbenigedd prifysgolion mewn modd syml a goresgyn heriau ar y cyd. Meddai, "Mae cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant yn allweddol wrth yrru ymchwil ac arloesi ymlaen. Mae hwn yn faes y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei annog a'i gefnogi ers sawl blwyddyn, ac rwy'n falch o weld effaith gadarnhaol arian yr Undeb Ewropeaidd, sy'n rhoi manteision i amrywiaeth o fusnesau ar draws y rhanbarth ac yn creu cyfleoedd ar gyfer twf a swyddi."

‌Rhoddodd nifer o'r cwmnïau y mae ASTUTE wedi gweithio gyda hwy, gan gynnwys Aluminium Lighting Company, Ortho Clinical Diagnostics, Glass Tech Recycling Ltd, Frontier Medical Group, Amcanu Ltd, Silverwing (UK) Ltd a Cambrian Printers Ltd, gyflwyniad yn y digwyddiad, gan amlygu sut mae cydweithio wedi bod yn fantais i'w cwmnïau.

‌Meddai'r Athro Hans Sienz, Cyfarwyddwr Prosiect ASTUTE, "Hyd yma, mae ASTUTE yn hynod falch o effaith ei gydweithio sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant wrth ddiwallu anghenion amrywiaeth o weithgynhyrchwyr yng Nghymru.

"Rydym yn helpu cwmnïau â'u cynaladwyedd a chystadleugarwch hirdymor drwy roi technolegau uwch ar waith a gwella systemau gweithgynhyrchu, gyda'r nod terfynol o wella cystadleugarwch y sector gweithgynhyrchu yng ngorllewin Cymru a'r cymoedd.

"Mae ASTUTE yn unigryw o ran dod ag arbenigwyr blaenllaw o safon fyd-eang at ei gilydd o holl brifysgolion Cymru, gan gyfuno cefndiroedd systemau peirianneg, gwyddoniaeth a gweithgynhyrchu ag argaeledd arbenigwyr hynod brofiadol a gyflogir gan y prosiect i gefnogi busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru drwy gydweithio ymatebol â busnesau.

"Mae ASTUTE wedi rhagori ar dargedau gwreiddiol y prosiect, ac mae wedi cydweithio â mwy na chant o gwmnïau neu fentrau yng ngorllewin Cymru a'r cymoedd hyd yn hyn. Mae hyn wedi helpu i arwain at gynnydd o fwy na £4.5 miliwn mewn buddsoddi yng Nghymru, wedi creu bron cant o swyddi newydd ac wedi dechrau sefydliad naw menter newydd. Mae cyflawniadau nodedig eraill yn cynnwys lansio mwy na 200 o gynhyrchion, prosesau a gwasanaethau gwell neu newydd, yn ogystal â chofrestru 36 o gynhyrchion, prosesau neu arloesiadau gwasanaethau unigryw, newydd sbon.

"Cafwyd llwyddiannau hefyd wrth annog cwmnïau i fabwysiadu arferion amgylcheddol a chydraddoldeb gwell, yn ogystal â defnyddio prosesau gweithgynhyrchu mwy gwastraff-effeithlon a main."

Gan edrych at y dyfodol, meddai'r Athro Sienz, "Wrth baratoi ar gyfer y rownd nesaf o ariannu strwythurol ac adeiladu ar ein record helaeth ac effaith gadarnhaol hyd yma, rydym yn ymgynghori'n helaeth â rhanddeiliaid allweddol. Byddwn yn canolbwyntio ar feysydd arbenigedd ymchwil mewn prifysgolion i gyd-fynd ag anghenion hysbys diwydiant i ganiatáu gweithgareddau strategol â ffocws penodol ac effeithiau uwch er budd y gymdeithas ac economi Cymru. “

"Ein gweledigaeth ar gyfer cam nesaf ASTUTE gydag Ymchwil a Datblygu yw edrych ar gyfleoedd i ymestyn gweithgarwch y prosiect drwy wahanol ffrydiau ariannu cenedlaethol a rhyngwladol, a thrwy hynny agor mwy o ddrysau ar gyfer diwydiant gweithgynhyrchu Cymru."

Am ragor o wybodaeth am ASTUTE, ewch i www.astutewales.com/cy neu dilynwch ni ar Twitter @AstuteWales.