Prifysgol Abertawe yn lansio gradd meistr a addysgir Gwyddor Data Iechyd gyntaf y DU

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r tîm addysgu Gwybodeg Iechyd yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe wedi lansio MSc newydd sbon mewn gwyddor Data Iechyd.

Yr MSc mewn Gwyddor Data Iechyd yw'r cyntaf yn y DU i gynnig cwrs pwrpasol i bobl sy'n gweithio mewn gofal iechyd, yn enwedig mewn rolau sy'n cynnwys dadansoddi data iechyd a gwyddonwyr cyfrifiadurol heb brofiad o weithio gyda data o'r parth gofal iechyd, yn ogystal â pheirianwyr biofeddygol a swyddi tebyg.

Mae Gwyddor Data Iechyd yn arbenigedd amlddisgyblaethol sy'n cynnwys defnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) gyda data a geir o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys data cleifion, systemau meddyg teulu a Data Mawr yn gyffredinol. Mae gan Wyddor Data Iechyd y potensial i helpu i strwythuro busnes gofal iechyd yn fwy effeithiol o gwmpas canlyniadau, a gallai drawsffurfio arferion meddygaeth.

Mae'r rhaglen gradd meistr a addysgir amser llawn un flwyddyn mewn Gwyddor Data Iechyd (tair blynedd o astudio rhan-amser) wedi'i chynllunio i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol sy'n ofynnol i Wyddonydd Data Iechyd. Mae darpariaeth y rhaglen yn cydbwyso'r cysyniadau damcaniaethol hanfodol â phwyslais cryf ar waith ymarferol gan fyfyrwyr i sicrhau dealltwriaeth drylwyr o faterion allweddol pob pwnc.

Mae'r modiwlau arfaethedig yn cynnwys Gwyddor Data Iechyd a Chyfrifiadura Gwyddonol mewn Gofal Iechyd, Trin Data Iechyd, Delweddu Data Iechyd a Dadansoddi Data Iechyd. Mae'r MSc mewn Gwyddor Data Iechyd bellach yn derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sydd am astudio o fis Medi 2014.