Prifysgol Abertawe arobryn i gynnal gweithdy cynaladwyedd yng Ngŵyl y Gelli Gandryll 2014

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill cyfle i gynnal gweithdy cyhoeddus (galw heibio) yng Ngŵyl y Gelli Gandryll eleni ar ôl ennill gwobr Prifysgol Orau Cymru ar gyfer ymgysylltu ac arbedion ei rhaglenni cynaladwyedd.

Dyfarnwyd y wobr gan Brosiect Byw'n Wyrddach Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) a fydd yn rhoi cyfle i Brifysgol Abertawe arddangos ei gwaith ar gynaladwyedd.

Cynhelir y gweithdy Live Greener: The Difference Education Makes yng Ngŵyl y Gelli Gandryll ar ddydd Gwener, 23 Mai am 2:15-4:30pm, ac mae am ddim i'r cyhoedd.

Meddai Dr Heidi Smith, Rheolwr Cynaladwyedd Prifysgol Abertawe, "Rydym yn hynod falch y dewiswyd ni i arddangos gwaith Prifysgol Abertawe ar gynaladwyedd yng Ngŵyl y Gelli Gandryll.

"Prifysgol Abertawe oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan yn y fenter Prifysgolion Effaith Werdd, ac adeiladom ar hynny eleni drwy gymryd rhan yn rhaglen Byw'n Wyrddach NUS. Rydym yn hynod falch o gydweithio â NUS Cymru ac eraill ar ymgysylltu â myfyrwyr a staff i ddatblygu rhaglenni cynaladwyedd ar draws y campws."

Mae gan Brifysgol Abertawe lawer o brofiad o reoli ymchwil arloesol i gynaladwyedd eisoes, ac mae'n arwain y ffordd gyda nifer o ddatblygiadau newydd y'u cyflwynwyd ar y campws e.e. Prifysgol Abertawe oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill statws Masnach Deg.

  • Cadw gwenyn, llwybrau bioamrywiaeth a lotment staff ar y campws
  • Troi olew llysiau a ddefnyddiwyd ar y campws i BioDiesel yn lleol
  • Caffael cynaliadwy a pholisïau buddsoddi moesegol
  • Ymgorffori arferion cynaliadwy mewn adeiladau newydd e.e. cyfnewid daearwresol yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd
  • Canllaw Gwyrdd 2013 – Gwybodaeth am gynaladwyedd i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr
  • Ariannu Dyfodol Mwy Disglair – Ariannu ar gyfer prosiectau cynaladwyedd myfyrwyr
  • Rheoli Carbon – Camau Prifysgol Abertawe i ymdrin â lleihau carbon