Prif Gynghorydd Gwyddonol yn ymweld â'r campws i weld ymchwil Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Daeth yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, sy'n darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ar faterion gwyddonol ar draws adrannau, i'r campws i gwrdd ag ymchwilwyr ac i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf o ran ymchwil gwyddonol ym Mhrifysgol Abertawe.

Chief Scientific Adviser visit - signing wallCyfarfu'r Athro Williams ag ymchwilwyr o'r Colegau Gwyddoniaeth, Meddygaeth, a Pheirianneg yn ystod ei diwrnod ymweld. Cafodd ddiweddariad gan y timoedd ymchwil ar rai o'r ymchwil diweddaraf a wneir ar y campws. Mae'r Athro Williams yn ymchwilydd blaenllaw ei hun, ym maes clefyd Alzheimer.

Mae Prifysgol Abertawe'n ymwneud yn agos â rhaglen Llywodraeth Cymru, sef Sêr Cymru, sy'n ceisio denu ymchwilwyr gwyddonol o'r radd flaenaf i Gymru, yn arbennig yn y meysydd canlynol: 

  • Peirianneg Uwch a Defnyddiau
  • Gwyddorau Bywyd ac Iechyd
  • Carbon Isel, Ynni, a'r Amgylchedd

Un enghraifft ddiweddar o ymwneud Abertawe â'r rhaglen oedd penodi'r Athro James Durrant yn Athro Ymchwil Sêr Cymru ar gyfer Ymchwil Ynni Solar. Bydd yr Athro Durrant yn sefydlu, ac yn arwain, cyfleuster ymchwil pwrpasol o'r radd flaenaf mewn Labordy Dyfodol Solar newydd o fewn Canolfan Arloesi a Gwybodaeth y prosiect SPECIFIC ym Maglan.  Ariennir y Ganolfan gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, a bydd y labordy'n bartneriaeth unigryw rhwng prifysgolion yng Nghymru (a arweinir gan Abertawe) a Choleg Imperial Llundain.

Yn ogystal â chwrdd ag ymchwilwyr mewn amrediad eang o feysydd gwyddonol, cyfarfu'r Athro Williams â'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor y Brifysgol, ac aelodau eraill y Tîm Uwch Reolwyr hefyd.

Meddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

"Roeddem ni'n hynod o falch o gael croesawu'r Athro Williams i'r Brifysgol, ac i roi diweddariad iddi ar rai o'r ymchwil gwyddonol a wneir yma yn Abertawe, ym meysydd peirianneg, y gwyddorau naturiol, a meddygaeth.

"Roedd yr ymweliad yn amserol iawn, gan y bydd campws newydd y Bae, sydd ar ganol ei adeiladu, yn rhoi hwb mawr i'n hymchwil ac i'n cysylltiadau â diwydiant. Mae'n dangos bod Prifysgol Abertawe yn chwarae ei rhan wrth sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil gwyddonol y 21ain ganrif."